Arestio chwech ar amheuaeth o ddwyn o Gapel Salem a Chapel Caersalem

Y difrod eisoes wedi bod yn ergyd ariannol i’r capeli.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o ladradau mewn capeli yng Nghaernarfon wythnos diwethaf.

Un o’r capeli oedd Capel Salem, gyda Chapel Caersalem hefyd yn cael ei dargedu gan y lladron.

“Yn dilyn nifer o ladradau mewn capeli lleol yn ddiweddar, cafodd chwe person eu harestio ar amheuaeth o ladrad, a bydd ein hymchwiliad yn parhau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“oglau mwg a chwrw”

Roedd llanast mawr mewn rhannau o Gapel Salem megis y festri, ystafell y diaconiaid, y gegin, ac ystafell y bobol ifanc yng nghefn y festri a chafodd lloriau eu codi mewn rhai llefydd.

Ymysg yr eitemau gafodd eu dwyn mae system sain y capel, meicroffonau, ceblau, desg gymysgu, a hanner cit drymiau.

Dywedodd y Parchedig Mererid Mair wrth golwg360 fod “oglau mwg a chwrw” yn y festri.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n ddigalon bod unrhyw un wedi gallu gwneud y fath beth,” meddai.

“Roedd y lle yn iawn pan fuodd ein gofalwraig ni yno ddydd Iau diwethaf, ond pan aethon ni yno ddydd Mercher roedd rhywun wedi blocio ffenestri o’r tu fewn ac wedyn gweld y llanast ’ma.

Dywed y Parchedig Mererid Mair bod trysorydd y capel bellach wedi cysylltu gyda’u cwmni yswiriant er mwyn cael iawndal ond nad oes ganddynt syniad beth yw gwerth y difrod.

“Mae honno yn broses anodd, rydym ni’n gorfod disgwyl am adroddiad trosedd a phethau felly,” meddai.

Ond gyda’r capel eisoes wedi gorfod talu am ddiogelu’r drysau, am saer coed ac i geisio llogi offer newydd, mae’r digwyddiad eisoes wedi bod yn ergyd ariannol iddynt.

Gair o ddiolch

Mae’r Parchedig Mererid Mair wedi bod yn diweddaru pobol am sefyllfa’r capel ar wefannau cymdeithasol ac bod y capel yn ddiolchgar iawn am “waith caled” Heddlu Gogledd Cymru.

“Dio ddim yn mynd i fod yn hawdd, ond rydym yn ddiolchgar i’r heddlu, yr ofalwraig ac am y negeseuon clên ’da ni wedi eu derbyn,” meddai’r Parchedig Mererid Mair.