ASau yn cwrdd â thafarndai Caernarfon

Gwleidyddion lleol yn cwrdd â landlordiaid tafarndai yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau newydd.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Ar gais landlordiaid tafarndai lleol yn Arfon, mae Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS yn cynnal cyfarfod rhithwir i drafod y cyfyngiadau newydd sy’n dod i rym ddydd Gwener (04.12.20)

Mae etholaeth Arfon yn cynnwys tref Caernarfon, ac mae’r ASau lleol yn annog landlordiaid tafarndai i ddod i’r cyfarfod i leisio eu pryderon am y cyfyngiadau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Gymru.

Mae’r cyfyngiadau newydd, sy’n dod i rym ddydd Gwener, yn gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai yng Nghymru ac yn gorfodi tafarndai i gau am 6pm.

Dywedodd Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd;


“Rwy’n gwahodd landlordiaid tafarndai sy’n bryderus i ddod i’r cyfarfod a lleisio eu pryderon.

Dylai’r rhai sy’n bwriadu ymuno â’r cyfarfod anfon e-bost at Sian.Gwenllian@Senedd.Cymru i gofrestru a derbyn y manylion ymuno â Zoom. “

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal HENO am 7 (01.12.2020)