Mae’r brwydro yn parhau…

??

Erin Bryfdir
gan Erin Bryfdir

Mae misoedd bellach ers ddechrau pandemig Covid-19, ac rydym dal yn pendroni am y sgil effeithiau mae’n ei adael ar gleifion, y gwasanaeth iechyd a’r gymdeithas eang. Da ni fel gwasanaeth iechyd wedi bwrw ymlaen fel tîm i weithio’n galed iawn o dan straen y pandemig, wedi dysgu a mabwysiadu ffordd wahanol iawn o weithio, yn addasu i newidiadau a rheolau gwahanol gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau diogelwch ein hunain, a mwy na dim – diogelwch ein cleifion.

Bydd ymchwiliadau yn mynd ymlaen am flynyddoedd i geisio dod i adnabod gwraidd y feirws erchyll yma, ac i’w ddeall yn iawn.

Mae gweithio shifft 12 awr yn gwisgo mwgwd neu orchudd wyneb yn rhywbeth mae pawb yn yr ysbyty a’r gwasanaeth ambiwlans wedi dod i’r arfer ag ef bellach. Ni allaf bwysleisio pa mor bwysig ydi glynu a chadw at ganllawiau a rheolau’r llywodraeth er mwyn diogelu ni ein hunain ac eraill. Felly plîs, os ydych chi’n mynd i gwmni eraill, i’r siopau ac ati, gwisgwch orchudd wyneb, a chadwch at y rheol pellter 2 medr. 

Nodyn negatif iawn sydd wedi bod yn anodd i ni fel staff ydi gweld cleifion yn sâl ac nad yw’r teulu yn cael dod mewn i’w cysuro. Rydym yn gyfyngedig iawn gyda’r wybodaeth sydd yn cael ei drosglwyddo ar y ffôn, felly mae hyn wedi bod yn peri gofid i mi.

Ar nodyn positif, mae pawb wedi bod yn byw yn y “lockdown” ‘ma, ac i rai mae wedi bod yn gyfnod diflas, ond tybiaf fod rhai wedi gwerthfawrogi’r pethau bach mewn bywyd – cyfathrebu, cymdeithasu â theulu, gwerthfawrogi beth sydd adref ac yn lleol, ymarfer corff, darllen, gweithgareddau adref, a sefydlu cwlwm clos gyda rhai sydd yn bwysig ac yn agos i chi.

Megis dechrau mae tymor y ffliw, ac felly wrth wynebu pandemig covid-19 a’r ffliw, mae brwydr a sialens fawr o’n blaenau. Felly plîs, plîs, byddwch yn gall, cadwch at reolau pellter, gwisgwch orchudd wyneb, golchwch eich dwylo, a sicrhewch eich brechlyn ffliw os yn gymwys. Gyda’n gilydd mi ymdrechwn ymlaen i ddiogelu ein hunain, eraill ac ein teuluoedd.

Diolch!

Erin Bryfdir.