Busnes bro y dydd – Cigydd teuluol O.G. Owen a’i fab

Ymateb busnesau bach lleol Caernarfon i heriau’r Coronafeirws.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn y cyfnod rhyfedd a diflas yma, mae Bro360 yn awyddus i roi sylw i rai o fusnesau bach sy’n gwneud pethau positif yn ein cymunedau.

Mae siop deuluol O. G. Owen, neu ‘Siop Wil’ i’r mwyafrif o bobol leol, wedi bod yn y dref ers 1939, ac yn addasu o ddydd i ddydd wrth wynebu heriau’r Coronafeirws.

Gallwch gysylltu gyda’r siop ar 01286 672146.