Busnes bro y dydd – Palas Print, Caernarfon

Ymateb busnesau bach lleol Caernarfon i heriau’r Coronafeirws.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn y cyfnod rhyfedd a diflas yma, mae Bro360 yn awyddus i roi sylw i rai o fusnesau bach sy’n gwneud pethau positif yn ein cymunedau.

Siop lyfrau annibynnol yng nghanol y dref yw Palas Print, sy’n benderfynol o helpu’r gymuned leol yn ystod y cyfnod yma.

 

Ers ffilmio’r fideo yma, mae Palas Print wedi penderfynu eu bod yn parhau i fod ar agor, ond tu ôl i ddrysau caeedig.

Am y tro, gofynnir Palas Print i chi archebu ar-lein, neu gysylltu ar y ffôn, facebook, twitter neu instagram i drafod eich anghenion.

Rhif cyswllt – 01286 674631