Busnes newydd yn blaguro yn ystod y pandemig

Mae croeso cynnes i bawb yng nghaffi newydd Tŷ Winsh

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Er bod hi’n gyfnod digon dyrys i fusnesau bach a mawr y byd, nid yw’r sefyllfa wedi atal caffi newydd yn y dref rhag agor eu drysau am y tro cyntaf.

Yn wir, busnes a agorwyd yng nghanol y pandemig yw Tŷ Winsh yng Nghaernarfon, o dan reolaeth Pat ac Alwyn.

Mae’r caffi newydd, sydd yn cynnig bwydlen eang o brydau ysgafn, brechdanau a chacennau ffres, wedi agor ers bron i ddeufis bellach ac yn mynd o nerth i nerth.

“Mi oedden ni’n poeni yn arw y buasai’n dawel yma ond mi agorwyd ar y 10fed o Awst ac mi oedden ni’n brysur iawn” Medd Pat, “Oni’n teimlo yn reit galonnog bod hi’n mynd i fod yn llwyddiannus ac mae hi wedi bod, hyd yn hyn.”

Er y llwyddiant cynnar hwn, soniodd fod pethau wedi distewi i raddau dros yr wythnosau diwethaf.

“Dani’n gobeithio eith pethau ddim yn waeth” Eglurai, “mae Covid yn boen i unrhyw berson sydd yn rhedeg busnes, ond, os wyt ti’n cynnig gwasanaeth a chynnyrch da, mae pobl leol siŵr o fod yn gefnogol.”

Yn ôl un cwsmer yn y caffi:

“Mae hi’n le bach braf yma, Cymreig, sydd yn bwysig, ac mae yma groeso bob amser. Maen nhw’n ddewr iawn i fod yn mentro yn yr adeg sydd ohoni, ond diolch amdanyn nhw!”

Ymhlith yr holl ofid ac ansicrwydd, mae’n braf gweld cwmnïau bach newydd yn mentro, ac yn llwyddo, gan brofi nad yw’r darlun yn ddu i gyd.