Bwyty a lleoliad bendigedig newydd yn agor yng Nghaernarfon

Cefndir bwyty newydd y dref, Yr Hen Lys

Melissa Lambe
gan Melissa Lambe
Yr Hen Lys Caernarfon

Yr Hen Lys Caernarfon

Wedi ei leoli gyferbyn â Chastell Caernarfon, adeiladwyd yr Hen Lys yn 1863 gan y Syrfëwr Sirol John Thomas, ac enw gwreiddiol yr Hen Lys oedd Neuadd y Sir. Roedd yn sedd cyfiawnder yng Nghaernarfon tan 2009. Ym mis Chwefror 2018 prynodd cerddor llawrydd Moira Hartley yr Hen Lys a dechreuodd adnewyddiad ofalus gan sicrhau bod llawer o’r nodweddion pensaernïol gwreiddiol yn cael eu cadw.

Yn yr hen Lys Ynadon, mae ystafell de, bar a bistro y Fainc gyda nenfwd gwydr uchel a golygfeydd hyfryd o’r castell. Mae’r bar wedi ei greu o fainc wreiddiol yr Ynadon. Yn yr hen Lys y Goron mae Theatr y Llys gyda nenfwd crwm 40 troedfedd, mae gan y Theatr llwyfan hanner cylch ac awditoriwm gyda llawr dawnsio. Mae’r Ystafell Dyst bellach yn bar clyd lawr grisiau.    

Mae’r Hen Lys ar agor i frecwast / brunch, te prynhawn, bwydlen a la carte a chinio dydd Sul, mae hefyd ar gael i’w logi i briodasau, digwyddiadau preifat a corfforedig. 

Unwaith y bydd rheoliadau Covid-19 yn cael eu codi ymhellach, bydd perfformiadau cerddorol byw a sioeau theatr yn cael eu cynnig, gan gynnwys opera, jas, cabaret a chlasurol.  

Ymholiadau bwcio: 01286 239 010    info@theoldcourthouse.org.uk     www.theoldcourthouse.org.uk 

Dilynwch @theoldcourthousecaernarfon ar Facebook, Instagram a Twitter