Caernarfon yn arwyddo Paolo Mendes o Aberystwyth

Chwaraewr canol cae o Bortiwgal yn ymuno â’r Cofis

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cyhoeddi bod chwaraewr canol cae o Bortiwgal, Paolo Mendes, wedi arwyddo â’r clwb.

Bydd Paolo Mendes yn ymuno â charfan y Cofis o Aberystwyth, lle mae treulio’r ddau dymor diwethaf.

“Rydym wrth ein boddau i allu cyhoeddi bod Paolo Mendes yn cyrraedd am y tymor,” meddai datganiad ar wefan Trydar y clwb.

“Mae’r chwaraewr canol cae 27 oed o Bortiwgal wedi mwynhau dau dymor llwyddiannus gydag Aberystwyth yn Uwchgynghrair Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ef i’r Ofal. Croeso Paolo!”

Datgelu crys newydd am y tymor

Mae’r cofis hefyd wedi datgelu ei crys cartref newydd am y tymor 2020/21.