Caernarfon v Y Drenewydd yn cael ei ffrydio ar-lein

Y Cofis yn chwilio am fuddugoliaeth gyntaf y tymor

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bydd gêm Caernarfon yn erbyn y Drenewydd heno (nos Fawrth, Medi 15) yn cael ei ffrydio ar-lein ar YouTube, Facebook ac S4C Clic gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Dyma fydd cyfle cyntaf y ‘Cofi Army’ i weld eu tîm yn chwarae’r tymor hwn gan nad yw torfeydd yn cael mynychu gemau yn Uwch Gynghrair Cymru ar hyn o bryd.

Daw’r gêm oddi gartref ar ôl gêm agoriadol y tymor yn erbyn Pen-y-Bont ar yr Ofal ddydd Sadwrn (Medi 12).

Cyfartal oedd hanes y gêm honno, gyda’r ymosodwr Mike Hayes yn sgorio yn ei gêm gyntaf i’r clwb ar ôl i Mael Davies roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Gallwch weld uchafbwyntiau’r gêm honno yn ogystal â chyfweliadau gyda’r rheolwr Huw Griffiths a Mike Hayes isod.