Canghennau YesCymru yn rhan annatod o’r ymgyrch am annibyniaeth

“Y canghennau yw’r bobl,” meddai Cadeirydd YesCaernarfon, Gwion Hallam.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae oddeutu hanner cant o ganghennau YesCymru bellach wedi eu sefydlu ar draws y wlad, yn ôl Cadeirydd YesCymru, Sion Jobbins.

Er nad oes modd cynnal digwyddiadau cymunedol arferol fel gigs a ralis dywedodd bod rôl y canghennau’r un mor bwysig ag erioed er mwyn lledaenu’r neges ac ymgyrchu dros annibyniaeth neu i ddarparu “cwmnïaeth” a “brawdgarwch” i’w aelodau, meddai’r cadeirydd.

YesCaernarfon

Mewn sgwrs gydag Caernarfon360, eglurodd Cadeirydd YesCaernarfon, Gwion Hallam pwysigrwydd rôl y canghennau yn yr ymdrech.

“Y canghennau yw’r bobl,” meddai.

“Mae YesCymru o’r cychwyn wedi bod yn fudiad llawr gwlad a’r canghennau, mewn ffordd, yw’r peirianwaith sy’n golygu fod pethau’n digwydd.”

“Mae pob cangen a naws a blas gwahanol i raddau. Yn amlwg, mae YesCaernarfon, oherwydd y lleoliad a’r dref, yn gangen ble mae’r Gymraeg yn amlwg iawn ac er bod pob cangen yn wahanol – yr un yw’r nod.”

“Mae pob cangen yn gallu gweithredu yn annibynnol, yn yr un ffordd i ni’n credu y byddai Cymru yn well yn cael ei rheoli gan bobl sy’n ei deall hi ac yn cydymdeimlo a hi ac sydd eisiau’r gorau i Gymru, mae’r canghennau hefyd mewn ffordd.”

“Efallai dydi’r mudiad canolog ddim yn gwybod sut mae cyrraedd pobl Caernarfon ac yn yr un modd, efallai nad ydi pobl Caernarfon yn siŵr o sut i gyrraedd y mudiad canolog, felly mae’n gweithio’r ddwy ffordd.”

“Mae’n rhaid i ni gael grwpiau lleol ar lawr gwlad”

Er bod y mudiad yn mynd o nerth i nerth yn dilyn cynnydd trawiadol mewn aelodau dros y penwythnos dywedodd Siôn Jobbins “I annibyniaeth ddigwydd, mae’n rhaid i ni gael canghennau ar draws Cymru.”

Eglurodd bod gan ganghennau rôl hollbwysig i’w chwarae, wrth annog cydweithio cymunedol drwy rannu posteri, trefnu digwyddiadau, sefydlu cysylltiadau a denu aelodau newydd.

Wrth i’r mudiad gyrraedd 11,000 o aelodau, dywedodd:

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r canghennau.”

“Rydym yn credu bod ymosodiad anferth yn mynd i fod ar annibyniaeth ac ar y Senedd,” meddai, “ac felly mae’n rhaid i ni gael grwpiau lleol ar lawr gwlad – pobl sydd yn nabod pobl yr ardal, i siarad ag i rannu ar Facebook, Twitter ac wyneb yn wyneb.”

Mae modd darllen ynglŷn mwy ynglŷn â changhennau YesCymru yma.