Canolfan Caergylchu ymhlith canolfannau ailgylchu sydd yn ail agor yng Ngwynedd

Pump o’r wyth canolfan ailgylchu yng Ngwynedd yn ail agor.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun Cyngor Gwynedd

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y gall canolfannau ailgylchu ailagor, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y bydd pump o’i wyth canolfan ailgylchu yn ailagor i geir yn unig wythnos nesaf.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, bydd rhaid trefnu amser penodol ar-lein o flaen drwy gysylltu â’r cyngor.

Yn ogystal â chanolfan Caergylchu Caernarfon bydd canolfannau ailgylchu Bangor,  Dolgellau, Harlech a Phwllheli hefyd yn agored rhwng 9yb a 4yh o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.

“Yn dilyn y newid diweddar rydan ni’n falch ein bod ni wedi gallu datblygu system newydd a fydd yn ein galluogi ni i ailagor pump o’n canolfannau ailgylchu yn ddiogel yr wythnos nesaf”, meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd.

“Er mwyn i’r trefniant newydd hwn weithio, rydan ni’n apelio ar drigolion Gwynedd i fod yr un mor ystyriol ag maen nhw wedi bod ers cychwyn y cyfyngiadau.”

Disgwyl ciwiau

Ychwanegodd y cynghorydd: “Mae’n bosib y bydd ciwiau ar adegau wrth i’r trefniadau newydd gael eu rhoi ar waith – gofynnwn ichi fod yn amyneddgar a pharchu’r staff a fydd yn gwneud eu gorau i gael pawb trwy’r ganolfan mor ddiogel ac mor gyflym â phosib.

“Mae’r neges aros adref yn dal mewn grym yng Nghymru – a dim ond os nad ydyn nhw’n gallu storio eitemau’n ddiogel adref, neu os nad oes modd casglu’r eitemau fel rhan o gasgliadau ailgylchu wythnosol y Cyngor, y dylai trigolion ystyried teithio i’n canolfannau ailgylchu.

 

Ni ddylai pobol sy’n dangos symptomau COVID-19, na’r rheini sy’n byw yn yr un tŷ â rhywun sy’n dangos symptomau o’r feirws neu â rhywun sy’n cael eu gwarchod, ymweld â’r canolfannau ailgylchu.

Bydd canolfannau ailgylchu’r Cyngor yng Ngarndolbenmaen, Blaenau Ffestiniog a’r Bala yn dal ar gau wrth i’r Cyngor asesu sut mae’r trefniadau newydd yn gweithio yn y safleoedd eraill.