Mab chwarelwr a gafodd ei wahardd o Brifysgol Bangor yn rhyddhau hunangofiant

Roedd Glyn Tomos o Gaernarfon, mab i chwarelwr sy’n hanu o bentref Dinorwig, wrth galon protestiadau tymhestlog dros hawliau iaith Gymraeg yn y 1970au.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Daeth Glyn Tomos, o Ddinorwig yn wreiddiol ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda’i deulu, yn ymgyrchydd iaith blaenllaw yn ystod ei gyfnod cythryblus fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn y 70au.

Yn Deffro i Fore Gwahanol, mae Glyn Tomos yn cofio protestiadau Tachwedd 1976, a welodd 4 o fyfyrwyr, ag yntau yn eu plith, yn cael eu diarddel o’r Brifysgol dros dro.

Mae’r hunangofiant yn cynnig darlun anffafriol iawn o Syr Robert Charles Evans, Prifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru rhwng 1958 a 1984, ynghyd â nifer o ffigurau amlwg eraill yn y Brifysgol.

Mae Mr. Tomos yn trafod ei gyfnod yn gweithio fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn Adran y Trysorydd yng Nghyngor Dinas Bangor, ac yn sôn am Chwarel Dinorwig fel “pris drud i’w dalu” i ddynion lleol a aeth ymlaen i ddioddef afiechyd. 

Ar ôl gadael Bangor, aeth Glyn Tomos ymlaen i ymgeisio am yr offeiriadaeth, cyn dod yn weithiwr cymdeithasol yng Ngwynedd.

Yn y gyfrol hon mae’n codi cwr y llen ar ei brofiadau difyr fel golygydd y cylchgrawn pop enwog, Sgrech, a’r gwaith ynghlwm â sefydlu Papur Dre, papur bro lleol tref Caernarfon.

Mae hunangofiant Glyn Tomos, Deffro i Fore Gwahanol, ar gael yn siop lyfrau Na Nog ar faes Caernarfon, ac yn Palas Print, Caernarfon.