Cinio Nadolig Age Cymru

Age Cymru yn cynnig cinio Nadolig fel ‘pryd ar glud’ eleni 

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn darparu cinio Nadolig fel gwasanaeth pryd ar glud eleni.


Am bris o £7 bydd y pryd yn cael ei ddanfon i’ch drws ar y 9fed, 18fed, 23ain neu’r 24ain o Ragfyr.


Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cinio Nadolig traddodiadol, pwdin Nadolig gyda saws gwyn, a mins pei.

Anogir y rhai sydd am fanteisio ar y gwasanaeth i archebu drwy ffonio 01286 685926 rhwng 10yb a 2yh yn ystod yr wythnos.