Codi £600 at fanciau bwyd lleol

Mae ASau Arfon, Siân Gwenllian a Hywel Williams, wedi lansio Apêl Banc Bwyd y Gaeaf i gefnogi’r ddau brif fanc bwyd yn eu hetholaeth.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Yn ddiweddar, aeth y gwleidyddoin â phecynnau bwyd i fanc bwyd Arfon yng Nghaernarfon a banc bwyd yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor, gan dalu teyrnged i haelioni’r cyhoedd, yn ogystal ag ymdrech gwirfoddolwyr lleol i gefnogi’r rhai sydd angen help llaw y Nadolig hwn.

Mae tudalen Just Giving wedi’i lansio er mwyn cyfrannu at y banciau bwyd. Gallwch glicio yma.

Dywedodd Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru: 

“Mae’n sgandal bod angen banciau bwyd yn y lle cyntaf, ond mae gwaith tosturiol pobl Arfon yn ystod y pandemig yn dangos y dyletswydd o ofal sydd gennym tuag at ein gilydd.

“Fel rheol, byddem wedi casglu bwyd yn ein swyddfeydd ym Mangor ac yng Nghaernarfon, ond mae ein swyddfeydd yn parhau ar gau oherwydd cyfyngiadau Covid.

“O’r herwydd, rydw i’n falch iawn ein bod wedi cynnal casgliad ar-lein. 

“Gwn y bydd pobol Arfon yn hael, ar ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod yn arbennig o heriol yn ariannol i lawer o bobl.”

Y targed gwreiddiol a osodwyd oedd £300, ond ar ôl cyrraedd y targed hwnnw mewn dim o amser, penderyfnodd yr ASau ddyblu’r targed i £600.