Coronfafeirws: Cyfeirlyfr cynlluniau cymorth yr ardal

Cyfeirlyfr arbennig gan Gyngor Gwynedd yn rhestri manylion cynlluniau cymorth yn yr ardal.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn cyfnod o ansicrwydd mae Cyngor Gwynedd wedi creu cyfeirlyfr arbennig yn rhestri manylion cynlluniau cymorth sydd mewn lle yn y sir.

Syniad y cynlluniau cyfaill yw creu tîm o wirfoddolwyr fydd ar gael i hôl negeseuon (bwyd, presgripsiwn a nwyddau hanfodol) ar ran pobol sy’n hunan ynysu.

Mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gymdogaethau ar lefel pentref, tref neu blwyf yn ymateb yn gadarnhaol mewn sefyllfa o angen.

Cliciwch yma i weld cyfeirlyfr cymorth eich ardal chi.

Eglurodd llefarydd ar ran y cyngor fod y rhestr yn anghyflawn ar hyn o bryd ac y bydd gwybodaeth yn cael ei ychwanegu i’r cyfeirlyfr yn gyson.

Rhannwch y rhestr a’r wybodaeth â phobl yn eich bro, yn enwedig rhai sydd ddim a mynediad i’r we.

A chofiwch ychwanegu manylion unrhyw gynlluniau eraill yn y sylwadau isod neu drwy ebostio’r cyngor: cymorthcymunedol@gwynedd.llyw.cymru

Podlediad Cynlluniau Cymorth

Bu rhifyn arbennig o bodlediad Bwletin Bro yn holi sut mae criwiau lleol wedi mynd ati i greu cynlluniau cymorth ar frys, er mwyn helpu’r bobol fregus yn lleol wrth iddynt hunan ynysu.

Gwrandewch ar y podlediad llawn yma: