Cydnabyddiaeth i wasanaeth dosbarthu prydau bwyd yn ardal Caernarfon 

ASau yn diolch i griw Age Cymru Gwynedd a Môn

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae cynllun dosbarthu prydau bwyd dyddiol i bobl hŷn yn Arfon a Môn wedi derbyn canmoliaeth wrth i Siân Gwenllian a Hywel Williams ymweld â chanolfan Age Cymru, Bontnewydd sydd wedi bod yn darparu dros 350 o brydau poeth yn wythnosol i bobl leol ers cychwyn y pandemig o’u canolfannau ym Montnewydd a Phenygroes yn ogystal a chinio Nadolig trwy fis Rhagfyr.

 

Mae’r ganolfan hefyd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Bontnewydd i ddarparu cinio poeth i drigolion yr ardal sydd dros saith deg oed bob Dydd Gwener trwy fis Rhagfyr.

 

Mae’r ganolfan wedi gweld cynnydd parhaol yn y galw am y gwasanaeth ac yn ddibynnol ar haelioni gwirfoddolwyr i ddosbarthu’r bwyd ledled yr ardal, gan gynnwys y Cynghorydd Peter Garlick sydd wedi bod yn dosbarthu prydau o gwmpas Bontnewydd.     

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS, 

 

‘Roedd yn bleser ymweld â chanolfan Age Cymru, Bontnewydd i weld y gwaith caled tu ôl i’w cynllun dosbarthu bwyd. Mae’r ymroddiad i helpu pobl, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus, yn fregus neu sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod caled hwn, yn gwbl amlwg.’

 

‘Mae gwasanaethau cymunedol o’r math yma wedi bod yn achubiaeth i lawer o’n hetholwyr mwyaf bregus, yn enwedig i’r rhai sydd wedi bod yn hunan-ynysu am resymau iechyd.’

 

‘Mae llawer o bobl yn parhau i fod yn bryderus ynghylch mentro allan i fannau cyhoeddus fel archfarchnadoedd, felly bydd parhau i dderbyn prydau i’w drws yn rhoi’r sicrwydd iddynt.’

 

‘Mae’r mentrau cymunedol hyn wedi codi ar draws yr etholaeth fel ymateb tosturiol a gofalgar i’r pandemig, ac mae wedi codi calon i weld pobl leol yn tynnu at ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.’

 

‘Hoffwn dalu teyrnged i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd ynghlwm â chynllun dosbarthu bwyd Age Cymru, boed yn staff y gegin sy’n paratoi’r prydau neu’r gyrwyr sy’n eu dosbarthu i drigolion lleol.’