Cyfweliad: Chris Summers

Mae Chris Summers, sydd ynghlwm â’r priosect Porthi Pawb, yn annog trigolion Caernarfon i siopa’n lleol y Nadolig hwn.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mewn cyfweliad â Caernarfon360, mae’r cogydd Chris Summers wedi annog pobol Caernarfon i siopa’n lleol y Nadolig hwn.

“Dwi’n credu, fel pobl leol y dref, mae’n ddyletswydd arnon ni i gyd i gefnogi’r dyn bach ar y stryd.

“Yn siopau bwyd, siop ddillad neu’n grydd teuluol.

“Mae’n bwysig, yn enwedig y Nadolig yma.”

Mae Chris Summers, sy’n gogydd ar briosect Porthi Pawb Caernarfon yn poeni am effaith y pandemig ar fusnesau bach lleol.

“Eleni, dani wedi gweld nifer o wynebau adnabyddus yn diflannu o’n strydoedd.

“Ond wedi dweud hynny, dwi hefyd wedi gweld wynebau newydd.

Dwi’n credu ei fod yn dangos ysbryd cymunedol iach.”

Gofynnodd Caernarfon360 pa fusnesau y bydd Chris ei hun yn eu cefnogi y Nadolig hwn.

Fel cogydd, dwi’n licio picio draw i Owen Glyn Owen, y cigydd, i ’nôl ein harcheb wythnosol neu ar gyfer sgwrs fach.

Mae fy mhartner Rhiannon wrth ei bodd yn treulio amser yn Stryd y Plas – yn ymweld â Bonta Deli neu Palas Print, dim ond i enwi dwy siop.”

Mae tystiolaeth yn awgrymu am bob £1 sy’n cael ei wario mewn busnesau annibynnol, bod 63c yn aros yn yr economi lleol.

Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol, gofynnom i Chris beth oedd ganddo ar y gweill;

“Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar fy menter newydd fy hun, gyda’r gobaith o agor ein drysau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Cadwch lygad am Y Grochan o fewn hen waliau’r dre.”

A beth oedd neges Chris i ddilynwyr Caernarfon360, ar drothwy’r flwyddyn newydd?

“Os alla i rannu rhywbeth hefo fy nghyfeillion yn yr ardal, mi faswn i’n awgrymu’n gryf ichi gadw’n saff ac yn ddiogel.

Ac yn ail, mwynhewch y Nadolig cymaint ag sy’n bosib.

Nadolig Llawen!”