Cymdogion pentrefi Arfon yn creu cynlluniau i helpu ei gilydd

Rhestr o’r cynlluniau cyfaill a chymorth yn Arfon

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mewn cyfnod o ansicrwydd a newid, mae grwpiau o bobol mewn sawl cymdogaeth wedi creu cynlluniau lleol i helpu’r rhai mewn angen.

Syniad y cynlluniau cyfaill yw creu tîm o wirfoddolwyr fydd ar gael i hôl negeseuon (bwyd, presgripsiwn a nwyddau hanfodol) ar ran pobol sy’n sownd yn eu cartrefi’n hunan ynysu.

Mae’n un o’r enghreifftiau gorau o gymdogaethau ar lefel pentref, tref neu blwyf yn ymateb yn gadarnhaol mewn sefyllfa o angen.

Dyma restr o gynlluniau o’r fath yn Arfon.

Rhannwch y rhestr a’r wybodaeth â phobl yn eich bro, yn enwedig rhai sydd ddim ar Facebook.

A chofiwch ychwanegu manylion unrhyw gynlluniau eraill yn y sylwadau isod.

Caernarfon360:

  • Cofis Curo Corona
    • Cyswllt Cadnant: Dawn Lynne Jones, 07901945757, dlj740@aol.com
    • Cyswllt Menai: Dewi Wyn Jones, 07580334554, dewijones97@live.com
    • Cyswllt Peblig: Jason Wayne Parry, 07900594279, jasonelo@outlook.com
    • Cyswllt Seiont: Cai Larsen a Dic Thomas, 07795230072, cailarsenblgmenai@gmail.com
  • Canolfan Gwirfoddoli Gwynedd – cyswllt: 01286 672626, gwirfoddoli@mantellgwynedd.com
    • Mae gan Ganolfan Gwirfoddoli Gwynedd rwydwaith o bobol sydd yn gwirfoddoli yng Ngwynedd er mwyn cynorthwyo pobol sydd yn hunan ynysu.

DyffrynNantlle360:

  • Yr Orsaf: Grŵp Cefnogi Penygroes –
    • Cyswllt Bore: Elliw, 07539222670, elliw@yrorsaf.cymru
    • Cyswllt Prynhawn: Greta, 07410982467, greta@yrorsaf.cymru
  • CFfi Dyffryn Nantlle – Yn cydweithio gyda Yr Orsaf.

DyffrynOgwen360:

BroWyddfa360:

  • Cynllun Cyfaill Llanberis – Er mwyn cynorthwyo pobol sydd methu mynd allan i siopa neu i gasglu presgripsiwn oherwydd cyflwr iechyd, oedran neu hunan ynysu: 07955 715183

Dyma fanylion rhai cynlluniau cymorth yng ngweddill Gwynedd:

  • Bro CFfI Godre’r Eifl – cyswllt: Rhodri 07985231091
  • Bro CFfI Ysbyty Ifan – cyswllt: Mirain: 07468 415026
  • Bro CFfI Llanrwst – cyswllt: Hanna Dobson: 07513590491
  • Grŵp Cefnogi CORONAVIRUS Abergwyngregyn