Cyngor Gwynedd yn holi barn er mwyn sicrhau’r gorau i bobol ifanc Arfon

Y nod yw “sicrhau system addysg ôl-16 sy’n wirioneddol cyfarch anghenion pob un o’n dysgwyr.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun: www.pxfuel.com

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfnod ymgysylltu i glywed barn disgyblion, teuluoedd staff a llywodraethwyr ysgolion am sut mae modd sicrhau’r gyfundrefn addysg ôl-16 orau bosib i bobol ifanc yn ardal Arfon.

“Ni ddylai cefndir, daearyddiaeth nac amgylchiadau gyfyngu ar ddewis na llwybr dyfodol ein pobl ifanc,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd.

“Mae angen system addysg sy’n cyfuno anghenion addysgol, galwedigaethol, technegol ac academaidd gan arfogi ein pobl ifanc gyda sgiliau allweddol ar gyfer y byd gwaith.”

“Amserol” i gymryd cam yn ôl

“Does dim newid sylweddol wedi bod ym mhatrwm addysg ôl-16 yn ardal Arfon ers peth amser,” meddai Garem Jackson, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd:

“Gyda thirlun addysg ôl-16 yn newid ar draws Cymru, mae’n amserol felly i ni gymryd cam yn ôl er mwyn gweld os ydi’r sefyllfa bresennol yn cyfarch anghenion ein pobl ifanc yn llawn.”

“Trwy gynnal sgwrs agored rydym yn awyddus i weld pa agweddau o’r drefn bresennol sy’n gweithio’n dda a beth allwn ni ei wneud yn well i sicrhau cyfundrefn arloesol sy’n cynnig y gorau i bob dysgwr.

“Yn fwy na dim, rydym am ganfod ateb i’r cwestiwn: beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod y drefn yma yng Ngwynedd yn galluogi pob un o’n dysgwyr i gyflawni eu potensial?”

“Awyddus i ystyried oes lle i wella”

“Mae’r tirlun ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru’n newid. Dyna pam ein bod fel Cyngor yn awyddus i ystyried oes lle i wella’r ddarpariaeth yn ardal Arfon o’r sir,” yn ôl y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams.

“Ein gweledigaeth ydi sicrhau system addysg ôl-16 sy’n wirioneddol cyfarch anghenion pob un o’n dysgwyr.

“Mae disgwyliadau cyflogwyr yn newid gyda llawer mwy o bwyslais ar feysydd fel gwasanaethau digidol, y sector ynni gwyrdd a bwyd ac amaeth. Mi fydd hi felly yn hanfodol bod y gyfundrefn addysg ôl-16 i’r dyfodol yn paratoi ein pobol ifanc ar gyfer y cyfleoedd fydd yn deillio o’r holl sectorau craidd.

“Wrth gwrs, mewn cyfnod arferol, byddai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal, ond er y sefyllfa sydd ohoni rydym yn bwriadu cynnal cyfarfodydd rhithwir er mwyn gallu dod ynghyd ar y we i drafod a gwyntyllu syniadau er budd ein pobol ifanc.

“Rydym yn awyddus i gael sgwrs agored i weld beth sydd gan bobol ifanc yr ardal i’w ddweud, ac rydym hefyd am glywed barn rhieni, staff, llywodraethwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.

Cyfle i rannu eich barn

Bydd y Cyngor yn cynnal sesiynau rhithwir efo dysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn a gofyn unrhyw gwestiynau.

Mae rhagor o fanylion am y broses ymgysylltu anffurfiol, gan gynnwys sut i gyflwyno sylwadau i’w gweld fan hyn.