Cynnydd o 80% yn y galw am fanciau bwyd yn Arfon

Mae Banc Bwyd Arfon wedi diolch am gefnogaeth y gymuned leol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llun Banc Bwyd Arfon

Mae’r galw am fanciau bwyd yn Arfon wedi codi 80% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Ers 2012 mae Banc Bwyd Arfon yng Nghaernarfon wedi bod yn darparu bwyd i bobol ar draws Arfon ond o ganlyniad i’r coronafeirws, mae’r banc bwyd yn brysurach nag erioed.

Yn ôl Arwel Jones, sydd yn gyfrifol am Fanc Bwyd Arfon,“mae’r galw wedi saethu fyny ac 80% yn uwch na’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae gennym o gwmpas pedwar deg o wirfoddolwyr sy’n rhedeg y banc bwyd, ac maen nhw wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn y cyfnod yma.”

Eglurodd Arwel Jones fod yna newid hefyd yn y bobol sydd yn galw am gymorth y banc bwyd.

“Yn naturiol mae nifer o wynebau newydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth yn ddiweddar, ac rydym yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â ni neu’r asiantaethau,” meddai.

Colli’r elfen gymdeithasol

Yn ôl Arwel Jones, un o’r pethau mwyaf trist yw fod yr elfen gymdeithasol oedd yn dod law yn llaw gyda’r banc bwyd wedi ei cholli.

“Roedd pobol yn arfer gallu cael paned a sgwrs gyda’r gwirfoddolwyr tra roedden nhw’n casglu eu bocsys bwyd, ond mae’r drefn yma wrth gwrs wedi newid wrth i ni ddilyn y rheolau dwy fetr y Llywodraeth,” meddai.

Dibynnol ar roddion

Mae banciau bwyd yn ddibynnol ar roddion ond wrth i gapeli a chanolfannau cymunedol orfod cau a chyfyngiadau’n cael eu rhoi yn eu lle mewn archfarchnadoedd, mae Banc Bwyd Arfon wedi gweld gostyngiad sylweddol yn faint o fwyd mae nhw wedi bod yn ei dderbyn.

“Er bod y swm o fwyd rydym yn ei dderbyn wedi gostwng da ni wedi gweld cynnydd yn y rhoddion ariannol,” meddai Arwel Jones wedyn.

“Mae pobol wedi bod yn hael iawn, ac mae nifer o glybiau chwaraeon gan gynnwys Tîm Merched Clwb Rygbi Caernarfon a Thîm Pêl-droed Merched Bethel wedi bod yn codi arian i’r banc bwyd wrth ymgymryd â heriau gwahanol, ac rydym ni’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw.”

Eglura Hannah Hughes, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Undeb Rygbi Cymru sydd yn chwarae i dîm merched Caernarfon, fod heriau fel hyn yn bwysig i dimau chwaraeon ac i’r gymuned ehangach.

“Bach o hwyl ydy’r her, cyfle i ddod i adnabod ein gilydd yn well, a hefyd yn gyfle i ni gefnogi ein chwaraewyr sydd yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd a chefnogi Banc Bwyd Arfon,” meddai.

Tîm rygbi merched Caernarfon yn cefnogi Banc Bwyd Arfon

Gohebydd Golwg360

Ymgyrch #MilMisMai yn dangos pwysigrwydd yr ochr gymdeithasol o rygbi.

Manylion Banc Bwyd Arfon

Mae Banc Bwyd Arfon ar agor rhwng 12:00-14:00 bob dydd Mawrth a dydd Gwener.

Os ydych chi’n dymuno defnyddio’r banc bwyd mae rhaid cael taleb o flaen llaw er mwyn derbyn parsel bwyd.

Cysylltwch gyda’r banc bwyd i drefnu hyn: info@arfon.foodbank.org.uk