Y dyn tu ôl i ddirgelwch awyr gwyrdd dros Gaernarfon

“Roedd rhywun o Dalysarn wedi ei weld, ac mae’n debyg bod ei mab yn meddwl mai Portal oedd o…!”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae pelydr o olau gwyrdd oedd i’w weld dros Gaernarfon dros y penwythnos wedi creu dipyn o stŵr ar gyfryngau cymdeithasol.

Er hynny, nid dynion bach gwyrdd na goleuadau’r gogledd oedd yn gyfrifol… ond Rob Stanley, sydd yn wreiddiol o Lerpwl ond sydd bellach yn byw ym Mynydd Cilgwyn ger Caernarfon.

Mae’r perchennog cwmni laser gan amlaf yn gweithio’n creu sioeau goleuadau i glybiau nos.

Fodd bynnag, yn dilyn blwyddyn ddistaw yn sgil y pandemig, aeth Rob Stanley a’i ffrind Seb Lee-Delislie ati i gynnal prosiect Laser Light City’.

Er nad oedd rhai’n hapus bod y digwyddiad yn disgyn ar yr un noson â chawod meteor, dywedodd bod yr ymateb ymhlith y bobl leol wedi bod yn “wych” ar y cyfan.

“Digwyddiad diogel”

Bwriad y prosiect, sydd eisoes wedi ei gynnal mewn amryw o leoliadau ar draws Prydain, oedd creu sioe o oleuadau i bobl allu mwynhau tra hefyd yn cadw’n ddiogel ac yn saff.

“Mae’r prosiect y rhywbeth penderfynodd Seb i sefydlu eleni,” meddai Rob Stanley, “fel digwyddiad covid-safe y gall pobl ymuno a mwynhau.

“Y syniad yw, nad oes rhaid ymgynnull mewn un man penodol i weld y sioe.

“Os ydych chi’n gallu gweld y laser neu fod ganddoch chi fynediad at y rhyngrwyd, yna mae modd i chi ymuno mewn gyda’r hwyl!”

Roedd y digwyddiad hefyd yn rhan o ddigwyddiad ‘Nine Lessons and Carols for Curious People’, sydd yn codi arian i sawl elusen, gan gynnwys Mind a Doctors Without Borders.

Gweithiannau cymhleth y pelydr

Eglurodd bod y dechnoleg tu ôl i’r pelydr, oedd yn cael ei saethu i’r awyr o Mynydd Cilgwyn, dros Gaernarfon yn gymhleth iawn.

“Mae ‘na ddarn o feddalwedd sydd gen i ar gyfrifiadur sy’n siarad â central server,” meddai, “sydd wedyn yn cysylltu i wefan.

“Yna, mae modd i bobl fewngofnodi ac ymuno â’r ciw, tan eu twrn nhw i gymryd rheolaeth dros y laser.

“Gall y cyfrifiadur reoli’r laser yn seiliedig ar signals mae’n ei dderbyn drwy ryngrwyd pwy bynnag sydd ar frig y ciw ac sydd mewn rheolaeth.

Dywedodd bod modd i bobl newid lliw rhai laser, newid ei gyfeiriad a’i batrwm o fewn ardal benodedig.

“70 o bobl yn disgwyl eu twrn!”

“Ar y noson, roedd dros 30 o bobl yn ciwio yn eithaf cyflym i gael twrn,” meddai Rob Stanley.

“Yna, fe dyfodd a thyfodd a’r mwyaf welais oedd 70 o bobl yn disgwyl eu twrn ar un tro!”

Dywedodd bod rhaid cyfyngu’r amser roedd gan bob person rheolaeth o’r pelydr i 30 eiliad, er mwyn ateb y galw.

Wrth drafod pa mor bell gall y pelydr deithio, dywedodd:

“Mae’n dibynnu ar bŵer y laser ei hun – roedd hwn yn laser arbennig o bwerus ond hefyd mae’n dibynnu ar y tywydd.

“Fe wnes i brawf byr nos Wener, pan oedd hi’n niwlog ac yn lawiog iawn ac oni’n yn cael fy stopio gan y cymylau – felly doedd dim modd iddo deithio yn bell.

“Wedi dweud hynny, roedd rhywun o Dalysarn wedi ei weld, ac mae’n debyg bod ei mab yn meddwl mai Portal oedd o… Sydd yn wych! ”

O dan yr amodau cywir, eglurodd gall y pelydr penodol hwn fod yn weladwy hyd at 30 i 40 milltir.

“Fedrwch chi ddim gobeithio am ymateb gwell”

Mae diddordeb Rob Stanley yn y maes yn deillio yn ôl i pan oedd yn ifanc iawn ac yn gallu gweld pelydrau Blackpool, 40 milltir i ffwrdd o’i dy ei rieni yn Lerpwl.

Er ei fod yn gweld pelydrau o’r fath bob dydd bellach, dywedodd, “mae’r wefr dal yr un mor rhyfeddol ag erioed!”

Wrth ddarfod yr ymateb lleol i’r digwyddiad dros y penwythnos, dywedodd:

“Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon yn dweud ei fod yn wych!”

“Roedd ‘na un ddynes o Ynys Môn yn mynd o amgylch y pentref cyfan – er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael gweld!

“Mae hynny’n wych – fedrwch chi ddim gobeithio am ymateb gwell nag hynny!”

“Does ‘na ddim lawer o waith wedi bod yn y diwydiant adloniant eleni,  felly mae’n braf cael cyfle i wneud rhywbeth sydd wedi dod ag ychydig bach o hapusrwydd i bobl.”

“Deall eu safbwynt” 

Er bod y digwyddiad wedi dod a hapusrwydd i nifer, roedd rhai yn siomedig ei fod wedi ei gynnal ar yr un noson â chawod meteor.

Mewn ymateb, dywedodd Rob Stanley:

“Er ein bod yn deall eu safbwynt – y pwynt yw bod hyn yn rhywbeth unigryw, oedd yn digwydd un waith am ychydig oriau, dydi o ddim yn cael ei gynnal trwy’r nos, bob nos.

“Yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi gwneud sylwadau cadarnhaol ac wedi ei fwynhau fel digwyddiad oedd yn rhad ac am ddim – rydym yn ei ystyried i fod yn llwyddiant.

Er hynny, dywedodd bod hi’n bwysig pwysleisio bod angen cael caniatâd gan yr awdurdodau perthnasol, cyn saethu unrhyw belydr o’r fath i’r awyr.