Cau deintyddfa Bupa ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yn “siom enfawr”

… Ond ddim yn syndod, yn ôl Siân Gwenllian.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Siân Gwenllian AoS yn dweud bod cau deintyddfa yng Nghaernarfon yn symptomatig o broblemau hir dymor ym maes gofal deintyddol.

Bydd deintyddfeydd Bupa ym Mae Colwyn a Chaernarfon yn cau ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.

Mae’n debyg y bydd yn effeithio ar dros 20,000 o gleifion, ond mae’r cwmni wedi gwrthod cadarnhau’r niferoedd.

Dywedodd Siân Gwenllian AoS, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, bod “angen ffordd glir ymlaen” wrth ymateb i’r cyhoeddiad.

“Siom enfawr”

“Mae’r newyddion y bydd deintyddfa Bupa ar Stad Ddiwydiannol Cibyn yn cau yn siom enfawr,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu gyda mi yn mynegi eu pryder, ac yn anffodus, nid yw’r newyddion yn syndod imi.”

“Rwyf wedi bod yn gohebu gyda chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a’r Gweinidog Iechyd ers imi gael fy ethol yn haf 2016 yn gofyn am ddiweddariad ynglŷn â pha gamau mae’r Bwrdd Iechyd am eu cymryd i fynd i’r afael â phrinder difrifol o wasanaethau gofal deintyddol yn Arfon.”

“Yn ôl ym mis Gorffennaf 2016 codais bryderon ynghylch diffyg deintyddfeydd yng ngogledd Cymru sydd yn fodlon cymryd cleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn un ergyd arall.”

Adlewyrchiad o broblem ehangach

Daw’r drafodaeth wedi i Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) gyhoeddi fod deintyddfeydd yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd ar ffracsiwn yn unig o’u capiaist, oherwydd y pandemig.

Mae’r gymdeithas yn rhybuddio y gallai cannoedd o ddeintyddfeydd gau o fewn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Arfon:

“Rwyf wedi gofyn i’r bwrdd iechyd lleol am ddiweddariad brys ar eu cynlluniau i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon a’r camau sydd am eu cymryd i sicrhau bod cleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol eraill yn ddi-oed.”

“Rwy’n gofidio yn enwedig, wrth gwrs, am y rhai na allant fforddio gwasanaethau iechyd preifat ac sydd felly’n dibynnu’n llwyr ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau deintyddol digonol ar gael ar gyfer pobl yr ardal hon.”