Siop Wil yn “wirion o brysur”, a busnesau eraill dre’ yn addasu

Er gwaetha’r sefyllfa, mae’r rhan fwyaf o fusnesau lleol Caernarfon yn agored ac yn addasu.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Er gwaetha’r sefyllfa ar hyd y byd, mae’r rhan fwyaf o fusnesau lleol Caernarfon yn agored ac yn addasu, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwasanaethu’r gymuned.

Sicrhau diogelwch cwsmeriaid

Ar ôl i golwg360 siarad â sawl busnes yn yr ardal, mae’n amlwg mai iechyd a diogelwch eu cwsmeriaid yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd, a gwneud yn siŵr bod systemau hylendid priodol ar waith i leihau’r risg i gwsmeriaid.

Mae sawl cam yn cael eu cymryd gan y gweithwyr, a phob un yn sicrhau eu bod yn dilyn cyfarwyddiadau diweddaraf y Llywodraeth ar hylendid.

Tafarndai yn sicrhau glendid

Bydd tafarndai’r dref yn agored, ac yn dilyn rheolau glendid cadarn. Mae tafarn yr Albert wedi buddsoddi mewn diheintydd cryfach na’r arfer, ac yn gyrru’r gwydrau trwy’r peiriant glanhau ddwywaith erbyn hyn.

Y teimlad yw bod pobol yn dal i ymweld â’r tafarndai ar hyn o bryd. Doedd dim gwahaniaeth i unrhyw benwythnos arferol yn y dref wythnos diwethaf yn ôl gweithwyr, ond efallai y bydd hi tipyn distawach erbyn y penwythnos yma.

Sul y Mamau’n help

Un achlysur sydd wedi helpu sawl siop yw Sul y Mamau.

Dywed Na-Nôg fod busnes wedi bod yn dda yn ystod yr wythnos yma, wrth i fwy na’r arfer ymweld â’r siop cyn dydd Sul. Ond, mae pryder am brysurdeb y siop ar ôl yr wythnos yma.

Addasu

Mewn cyfnod o ansicrwydd mae’n rhaid i fusnesau addasu, ac mae sawl busnes wedi dechrau cynnig gwasanaeth danfon bwyd. Mae’r Castell yn cynnig danfon bwyd i unrhyw un sydd yn byw o fewn milltir i’r bwyty am ddim. Bydd modd hefyd archebu bwyd fel ‘têc-awê’ hefyd.

Siop Teithiau Menai yw un busnes arall sydd wedi addasu yn ystod y dyddiau diwethaf. Erbyn hyn mae’r siop ar Stryd Bangor wedi cau, ond mae’r cwmni’n dal i weithio yn ystod oriau gweithio arferol, ac mae modd cysylltu ar y ffôn, neu ar e-bost.

Helpu’r gymuned leol

Bydd Y Goron yn cynnig gwasanaeth bwyd ‘i-fynd’ hefyd, i helpu’r rhai sydd yn cadw eu pellter oddi wrth eraill.

Bydd Y Goron hefyd yn cynnig bwyd am ddim i weithwyr y GIG fel diolch am eu gwaith yn ystod y cyfnod yma.

Paratoi am fywyd adref

Mae ‘na deimlad yn y dref fod llawer yn paratoi am fywyd yn y tŷ hefyd, wrth i sawl siop weld newid mewn arferion prynu.

Dywedodd Siop Hefin bod sawl person wedi prynu paent, yn barod i adnewyddu’r tŷ pan fyddant yn treulio mwy o amser nag arfer yn eu cartrefi.

Cefnogi’r busnesau bach

Mae sawl siop leol wedi bod yn brysur, gyda sawl becws yn dweud fod cynnyrch ffres yn hedfan allan o’r popty.

Wrth i silffoedd yr archfarchnadoedd wagio, a rhai yn gyndyn o deithio, mae mwy o bobol yn troi at fusnesau lleol er mwyn llenwi’r cypyrddau.

Un busnes sydd wedi bod yn “wirion o brysur” yw siop fwtsher Owen Glyn Owen, neu ‘Siop Wil’.

Er bod ei fan dosbarthu cig yn llonydd, gan nad yw’r bwytai yn gwneud archebion bwyd, mae’r siop wedi bod yn hynod o brysur, a dim un cyw iâr ar yr asgwrn i’w weld yn yr oergell.

Gobaith y busnesau yma yw y bydd pobol yn eu cefnogi ymhellach yn y dyfodol, ar ôl i’r argyfwng ddod i ben.

Cefnogwch yw’r gri

Un peth sy’n amlwg wrth siarad gyda busnesau’r ardal yw bod dyddiau caled ar y gorwel. Mewn cyfnod fel hyn, mae’n bwysig cydweithio.

Fel y gwelwn, mae sawl busnes lleol yn addasu er mwyn cefnogi’r gymuned yn ystod yr argyfwng yma. Felly, mae’n bwysig bod pobol ‘dre yn cefnogi busnesau lleol, ac yn manteisio ar y gwasanaethau newydd yma, er mwyn cadw eu drysau’n agored.