Mae’n amlwg bellach y bydd ’dolig 2020 yn ’ddolig gwahanol iawn i’r arfer, ar ôl blwyddyn anarferol iawn. Ond does ’na ddim angen i blant Caernarfon boeni, oherwydd bydd Siôn Corn Bwrdd Cwrn Caernarfon yn ymweld â’r dref fel arfer eleni.
Mae clwb y Bwrdd Crwn wedi gwneud addasiadau er mwyn sichrau y bydd ymweliad Siôn Corn â’r dref yn ddiogel, ac yn unol â chyfyngiadau Covid-19 y Llywodraeth.
Mae cynrychiolydd o’r Bwrdd Cwrn wedi siarad ar ran y clwb;
‘Y pwrpas blwyddyn yma ydi g’neud yn siŵr bod yr holl deuluodd sydd yn edrych ymlaen at weld Siôn Corn yn cael ei weld.
Fyddwn ni ddim yn stopio o gwbwl.
Fyddwn ni ddim yn curo ar ddrysa, ond ’da ni wedi g’neud tudalen Just Giving ar Facebook.’
Mae’r trefnwyr yn awyddus iawn i weld ymweliad Siôn Corn yn digwydd yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau Covid-19.
Dywedodd un o’r trefnwyr;
‘Os ydi hyn yn mynd i weithio, bydd rhaid i bawb helpu.
Os yda ni’n gweld grwpiau yn dechrau casglu, bydd y miwsig yn cael ei roi off, ac mi fyddwn ni’n gadael.’
Gallwch weld amserlen ymweliadau’r dyn ei hun isod.
Rhagfyr 1af
; Y Felinheli
Rhagfyr 2il; Penygroes
Rhagfyr 3ydd; Nebo, Llanllyfni, Talysarn, Nantlle
Rhagfyr 4ydd; Pontllyfni, Llandwrog, Saron, Dinas, Ffrwd Cae Du
Rhagfyr 6ed; Hendre, Gallt y Sil, Ffordd Segontiwm
Rhagfyr 7fed; Ceunant, Waunfawr, Caeathro, Gwêl y Llan
Rhagfyr 8fed; Fron, Carmel, Groeslon, Maes Tryfan, Rhos Isaf
Rhagfyr 9fed; Rhostryfan, Rhosgadfan, Cwm y Glo, Llanberis
Rhagfyr 10fed; Brynrefail, Deiniolen, Penisarwaun, Llanrug, Bro Rhythallt
Rhagfyr 11eg; Llanrug, Rhosbodrual
Rhagfyr 13eg; Maesincla, Twthill, Ael y Garth, Y Glyn, Fordd Bethel, Cae Bold
Rhagfyr 14eg; Bethel
Rhagfyr 15fed; Maes Barcer, Stryd Dinorwig, Stryd y Faenol, Stryd Margaret, Stryd William
Rhagfyr 16eg; Cae Gwyn, Ffordd Bangor
Rhagfyr 17eg; Bontnewydd, Parc Muriau