Sut i fwynhau peint a chadw yn saff?

Dim gweiddi, dim canu, dim cerddoriaeth byw

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Bydd tafarndai, caffis a bwytai Cymru yn agor eu drysau unwaith yn rhagor wrth i’r cyfnod clo dros dro ddod i ben, Tachwedd 9.

Mae Caernarfon360 wedi llunio rhestr o’r holl wybodaeth sydd angen arnoch i fwynhau peint neu bryd o fwyd, tra’n aros yn ddiogel ac yn iach.

Canllawiau tafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru:

  • bydd rhaid bwcio bwrdd o flaen llaw
  • bydd gofyn ichi roi manylion cyswllt fel bod modd cael gafael arnoch os bydd achos yn cael ei gysylltu â’r lleoliad
  • bydd rhaid cael ID boed hynny’n drwydded yrru, gerdyn banc ac ati
  • dim ond gwasanaeth wrth y bwrdd fydd yn cael ei gynnig
  • dylai popeth gael ei fwyta a’i yfed wrth y bwrdd
  • bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, er enghraifft mwy o le rhwng y byrddau
  • dim ond grwpiau o hyd at 4 o bobl a ganiateir (heb gynnwys plant o dan 11 oed) oni bai eu bod i gyd o’r un aelwyd
  • bydd gofyn gwisgo gorchudd wyneb, heblaw pan fyddwch yn eistedd i fwyta neu i yfed
  • bydd y safle yn rhoi cyfnod amser penodol y gall gwsmeriaid aros yn yr adeilad e.e. dwy awr
  • ni fydd cerddoriaeth fyw a bydd y sŵn ar setiau teledu yn cael ei gadw’n isel.

Daw hynny, er mwyn atal pobl rhag gweiddi er mwyn cael eu clywed dros gerddoriaeth uchel ac yn ôl y canllawiau, mae rhaid osgoi canu yn agos i rywun hefyd.

Bydd rhaid i sefydliadau roi’r gorau i werthu alcohol am 10yh a bydd angen i bob safle sydd wedi’i drwyddedu i werthu alcohol i’w yfed ar y safle gau erbyn 10.20yh.

Mae hynny hefyd yn berthnasol i siopau trwyddedig ac archfarchnadoedd.

 Barn un tafarnwr

“Maen nhw’n ofynion call i gyd a dw i’n cyd-fynd hefo bob dim, i wneud pethau mor saff â phosib,” meddai perchennog Bar Bach, Tudor Hughes.

Y broblem fwyaf, meddai, fydd cael bwrdd.

“Mi oedd ‘na lot yn siomedig tro diwethaf, gan fod ni’n fully booked a oedden ni’n teimlo bechod ac yn mynd yn erbyn y graen yn gwrthod pobol.”

Dywedodd y byddai’n gwrthod cwsmeriaid o Loegr gan fod “hynny’n anghyfreithlon – dydyn nhw ddim i fod yma.”