Galw ar Microsoft i ddarparu sianel gyfieithu ar y pryd

“Mae’n reit anhygoel i mi nad oes ‘na drefn cyfieithu gan Microsoft,” meddai Cynghorydd Caernarfon.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Microsoft Köln, RheinauArtOffice, Rheinauhafen Köln

Mae Cynghorydd ward Seiont, Cai Larsen wedi galw ar Microsoft i ddarparu sianel gyfieithu ar y pryd ar gyfer eu gwasanaeth fideo-gynadledda, Microsoft Teams.

Daw’r drafodaeth wedi i staff Cyngor Gwynedd gael eu hatal rhag cyfrannu’n Gymraeg mewn cyfarfodydd allanol.

Mae Pwyllgor Iaith y Cyngor wedi annog sefydliadau yng Nghymru i gynnal eu cyfarfodydd gan ddefnyddio offer sydd yn caniatáu cyfieithu ar y pryd, fel Zoom.

Mae dewis peidio yn golygu bod gwasanaeth dwyieithog yn cael ei “lastwreiddio”, yn ôl Cynghorydd ac aelod o’r Pwyllgor Iaith, Cai Larsen.

Y sefyllfa yn “anhygoel”

“Mae’n reit anhygoel i mi nad oes ‘na drefn cyfieithu gan Microsoft”, meddai.

“Maen nhw’n gwmni anferth sydd yn gweithio mewn bob math o wledydd dwyieithog, tairieithog hyd yn oed!”

“Rydym wedi dod yn bell dros y blynyddoedd, o ran darparu gwasanaeth dwyieithog ac mi fysa hi’n bechod ofnadwy os fysa hynny’n cael ei lastwreiddio oherwydd yr amgylchiadau sydd ohoni.”

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iaith, Elin Walker Jones, wedi ysgrifennu at Microsoft i’w hannog i ddarparu’r adnoddau priodol.

Annog mudiadau i sicrhau cyfarfodydd dwyieithog

Mae’r cynghorydd yn annog mudiadau a chorfforaethau yng Nghymru i gynnal eu cyfarfodydd gan ddefnyddio offer sydd yn caniatáu cyfieithu ar y pryd.

“Mae’n debyg bod rhywfaint o staff o bob mudiadau yn gallu siarad Cymraeg” meddai.

“A cyn bod y rhai ohonom sydd yn siarad Cymraeg yn medru siarad Saesneg hefyd, mae ‘na berig bod llawer iawn o’r hyn sy’n digwydd yn Gymraeg yn digwydd yn Saesneg dros y cyfnod yma – lle ‘da ni’n cael ein cadw arwahan.”

Mae golwg360 wedi holi Microsoft am ymateb.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.