Gardd gwrw y Clwb Rygbi wedi’i hagor

Gardd gwrw Clwb Rygbi Caernarfon wedi agor – croeso i bawb – ffoniwch 07725 207679

gan ANN HOPCYN

Mae un man sy’n llonni calon pobl rygbi Caernarfon, a’r Morfa yw hwnnw. Wedi’i leoli uwchben Parc y Dref ac ar y ffordd i Ysbyty Eryri, mae’r caeau gwyrddion eang a’r coed urddasol yn cynnig lleoliad arbennig i chwarae rygbi ond hefyd ar gyfer gardd gwrw. 

A dyna sydd wedi digwydd ar y ddau benwythnos diwethaf yng nghartref Clwb Rygbi Caernarfon.

Gyda’r argyfwng Covid-19 yn golygu bod y tymor chwarae wedi dod i ben yn ddisymwth a’r tŷ clwb wedi’i gau ym mis Mawrth, heblaw am drigolion yn mynd am dro, bu’n dawel iawn o gwmpas y clwb ers hynny.

Penderfynwyd archwilio’r posibilrwydd o agor gardd gwrw fel ffordd o gadw’r cyswllt gyda’n haelodau a’n cefnogwyr ac i hwythau fedru cymdeithasu – gan gadw at reolau pellhau cymdeithasol!

Sefydlwyd grŵp i ymchwilio i’r rheoliadau ac archwilio arfer dda. Ystyriwyd sut i osod byrddau’n ddigon pell oddi wrth ei gilydd, sefydlu system unffordd i gyrraedd y bar, darparu cyfarpar diogelwch i staff, hylif diheintio i gwsmeriaid, a threfnu i gymryd manylion cyswllt pawb oedd yno. Gyda sêl bendith y pwyllgor llawn, agorwyd am y tro cyntaf am 5 o’r gloch y pnawn ar ddydd Gwener 17eg Gorffennaf.

Roedd posib bwcio bwrdd ymlaen llaw, a chyda lwc, roedd hi’n noson braf, ond faint fyddai’n mentro allan? Mae’n dda cael adrodd y daeth dros hanner cant i’r noson gyntaf ac felly hefyd ar nos Wener 24ain a’r ddau Sadwrn ers hynny. Diolch i aelodau a chyfeillion am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydweithredu o dan yr amgylchiadau newydd.

Gyda gardd gwrw, mae’r tywydd yn ffactor, ac ar y cyfan, bu’n eithaf ffafriol, ond wrth gwrs mae Myfyr wedi llwyddo dod o hyd i gazebo mawr yn yr atig, sy’n cynnig rhywfaint o gysgod mewn cawod.

Am ba hyd y bydd hyn yn para, cawn weld, ond mae ail-agor y drysau mewn modd diogel yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, gan fod y clwb yn rhan annatod o’r gymuned ac yn cynnig llawer mwy na rygbi.

Mae dros 250 o blant yn mynychu sesiynau hyfforddi timoedd yr adran Iau yn wythnosol yn ogystal â’r tîm Ieuenctid; mae gan Gaernarfon dimoedd merched iau a hŷn; mae gan y dynion hŷn dîm cyntaf ac ail dîm. Bydd yn chwith iawn eleni na fydd gwersyll haf Awst ar gyfer y plant. Yn y gorffennol cafwyd ymweliadau gan Ken Owens, Mike Phillips a Rhys Patchell, ymysg llawer o sêr eraill y tîm cenedlaethol.

Fel rhan o’i genhadaeth, nid yw’r clwb yn codi ar y plant sy’n perthyn iddo. Mae croesawu pob un sy’n dymuno chwarae rygbi, beth bynnag bo’u hamgylchiadau, yn egwyddor sylfaenol. Mae cadw’r clwb yn hyfyw yn ariannol yn allweddol i’w ddyfodol ac rydym yn cydnabod gyda diolch cefnogaeth Cyngor Gwynedd ac Undeb Rygbi Cymru yn ystod yr argyfwng presennol.

Felly nosweithiau Gwener a Sadwrn nesaf, byddwn un waith eto yn croesawu aelodau a chefnogwyr Clwb Rygbi Caernarfon i ardd gwrw’r Morfa – cyfle am sgwrs ac i gefnogi clwb sy’n agos iawn at galon cynifer ohonom.

I archebu bwrdd cysylltwch ag Eurig: 07725 207679