Gardd gwrw fwyaf Caernarfon?

Cadeirydd Clwb Rygbi Caernarfon yn gobeithio y bydd modd i glybiau rygbi ail agor yn raddol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Alun Roberts, Cadeirydd Clwb Rygbi Caernarfon, yn gobeithio y bydd modd i glybiau rygbi ail agor yn raddol dros y misoedd nesaf, ac mae wedi awgrymu y byddai modd defnyddio caeau rygbi’r dref fel gardd gwrw.

Mewn cyfweliad â Golwg360, dywedodd cadeirydd y clwb, sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Clybiau Rygbi Gogledd Cymru, ei bod hi’n hollbwysig fod clybiau rygbi yn cydweithio a’i gilydd ac yn addasu er mwyn goresgyn y cyfnod o galedi sydd yn wynebu’r gêm yng Nghymru oherwydd y pandemig.

“Mae [Covid-19] wedi effeithio yn fawr iawn ar y clwb, a hefyd ar y gymuned, ’run fath ag y mae wedi gwneud ym mhob un clwb a chymuned,” meddai.

“Os na chawn ni chwarae rygbi, dwi’n gobeithio y bydd modd i ni agor y clwb, cynnal cyfarfodydd, gwneud tipyn bach o ymarfer gan ddilyn y rheolau, agor a gwerthu, cael lleoliad i bobol ddod yma a chyfarfod.

“Mi wneith hynna ddod, ond ein bod ni’n ei wneud yn ddiogel ac yn saff.”

“Dwi’n siŵr bod gennym ni ardd gwrw mwya’ Caernarfon yma – digon o le i ymbellhau’n gymdeithasol o ddau fetr neu hyd yn oed deg metr!”

Cymorth ariannol

Mae clybiau rygbi sydd wedi cofrestru fel busnesau yn gymwys ar gyfer grant o £10,000 gan Lywodraeth Cymru.

Er bod Alun Roberts yn cydnabod fod hyn wedi bod o gymorth mawr i glybiau rygbi’r ardal, mae’n pryderu beth fydd yn digwydd os na fydd modd i Undeb Rygbi Cymru ddychwelyd i dalu taliadau tymhorol arferol i glybiau lleol erbyn y flwyddyn newydd.

“Gan Undeb Rygbi Cymru mae’r arian yn dod,” meddai.

“Yr arian maen nhw’n ei wneud drwy’r gemau rhyngwladol sy’n ein cadw ni [y clybiau rygbi] i fynd drwy’r flwyddyn.”

Mae disgwyl i Gymru chwarae yn erbyn Yr Alban, Seland Newydd, De Affrica, Yr Ariannin a Ffiji yn yr hydref.

Ond wedi i daith haf Cymru i Japan a Seland Newydd gael ei gohirio mae pryderon cynyddol na fydd modd i gemau’r Hydref gael eu chwarae.

Rhan o’r gymuned leol

Fel nifer o glybiau rygbi ar draws y wlad, mae Clwb Rygbi Caernarfon wedi bod yn brysur yn codi arian dros gyfnod y clo mawr.

Bu tîm rygbi merched Caernarfon yn rhedeg, cerdded a seiclo mil o filltiroedd ym mis Mai er mwyn codi arian i Fanc Bwyd Arfon.

Mae Alun Roberts wedi ategu neges Gareth Davies, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru fod clybiau rygbi yng Nghymru yn “destun balchder”.

“Un o’r pethau gorau sydd wedi dod allan o hyn, ydy bod pobol a chlybiau yn fwy parod i feddwl am ei gilydd,” meddai Alun Roberts.

“Mae’r cyfnod yma wedi dangos pwysigrwydd clybiau rygbi i’r gymuned – mae ‘na lot o bethau yn cael ei wneud drwy glybiau i’r gymdeithas, a gobeithio bydd clybiau chwaraeon hyd yn oed yn fwy o ran o’r gymuned ar ol hyn.”

“Dychwelyd erbyn y flwyddyn newydd”

Mae’n credu mai drwy chwarae gemau lleol bydd rygbi cymunedol yn dychwelyd yn gyntaf.
“Pan gaw ni’r cyfle i chwarae rygbi, dwi’n meddwl mai lleol fydd y gemau – mae rhanfwya’ o’n gemau ni digon lleol,” meddai wedyn.

“Mae clybiau rygbi wedi arfer cydweithio â’i gilydd.”

Er hyn mae Alun Roberts yn cydnabod na fydd rygbi lleol yn dychwelyd tan o leia’r flwyddyn newydd, ond mae’n pryderu y byddai gorfod gohirio’r tymor ymhellach na hynny yn arwain at broblemau difrifol i glybiau ar draws y wlad.

“Mae’r tymor diwethaf wedi mynd yn anffodus, dwi’n gobeithio bydd modd i rygbi cymunedol ddychwelyd erbyn y flwyddyn newydd, ond os fyddwn ni’n colli chwe mis arall, bydd ‘na broblem wedyn.”