Dau gartref gofal yn dweud nad ydyn nhw’n bwriadu agor eu drysau i ymwelwyr eto

Cartrefi gofal Cymru yn gallu derbyn ymwelwyr

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cartref Gofal Cerrig yr afon yn Y Felinheli a Chartref Gofal Preswyl Gwynfa yng Nghaernarfon wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu agor eu drysau i ymwelwyr eto

Daw hyn ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe (27 Awst) yn rhoi caniatâd i bobol ymweld â pherthnasau a ffrindiau mewn cartrefi gofal yng Nghymru o heddiw (28 Awst) ymlaen, ddiwrnod yn gynharach na’r disgwyl.

Bydd ymweliadau’n destun rheolaethau llym i helpu i atal trosglwyddiad y coronafeirws.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mai mater i bob sefydliad unigol fyddai penderfynu pryd yn union y byddent yn gallu dechrau hwyluso ymweliadau’n ddiogel eto.

“Bydd y cadarnhad hwn yn gyhoeddiad i’w groesawu’n fawr i gynifer ledled Cymru,” meddai Mr Gething ddoe (27 Awst).

“Bu cyfyngu ar fynediad i gartrefi gofal yn gwbl angenrheidiol i amddiffyn rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag Covid-19 ond rydym yn llwyr werthfawrogi’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar breswylwyr a’u hanwyliaid.

“O ystyried y manteision i les preswylwyr, rwy’n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau’n gyflym er mwyn gallu cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel.”

Mae’r newid i’r rheoliadau hefyd yn berthnasol i hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc.

“Allan nhw ddim ein gorfodi i agor”

Mae is-reolwraig Cartref Gofal Cerrig yr Afon, Sharon Rowles, yn y Felinheli wedi ei gwneud hi’n glir na fydd ymwelwyr yn cael mynychu’r cartref eto.

“Er bod y Llywodraeth yn caniatáu ymwelwyr, allan nhw ddim ein gorfodi i wneud hynny.”

Dywed rheolwraig Cartref Gofal Preswyl Gwynfa, Caernarfon, bod angen adolygiad trylwyr cyn cymryd cam o’r fath.

“Rydan ni eisiau gwneud adolygiad a sicrhau bod popeth yn saff cyn gadael i ymwelwyr ddod yn ôl,” meddai.