gan
Osian Wyn Owen
Mae busnesau lleol tref Caernarfon wedi dod at ei gilydd i gynnal giveaway o wobrau dros £50.
Mae’r gystadleuaeth, sy’n digwydd ar dudalen Facebook Caernarfon360, yn rhan o ymgyrch i annog pobol Caernarfon i wario ym musnesau lleol y dref y Nadolig hwn.
Mae busnesau Adra, NaNog, Cyfarchion, Gray Thomas, Gwyndaf Williams a’i Fab a Scoops yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Nadoligaidd, sy’n agored i bobol Caernarfon a thu hwnt.
Dyma sydd yn rhai ichi ei wneud i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chael cyfle i ennill hampyr gwerth dros £50.
1. Hoffi tudalen Caernarfon 360
2. Hoffi tudalennau’r busnesau
3. Tagio 3 ffrind
Pob lwc!