Gwaith uwchraddio yng Nghaernarfon

Rhaglen lanhau ac uwchraddio Cyngor Tref Caernarfon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Untitled-design-2-2

Arhosfan bysys wedi ei lanhau yng Nghaernarfon

Mae Cyngor Tref Caernarfon wedi cychwyn ar ei raglen i lanhau ac uwchraddio arhosfanau bysus y dref. 

Mae’r gwaith eisoes wedi cychwyn ar arhosfanau mwyaf prysur y dref, ond mae’r cyngor wedi cadarnhau y bydd pob arhosfan yn derbyn sylw yn ei dro.