Gweithio yn Walt Disney World cyn y Coronafeirws

Byw a gweithio yn Disney – be gwell?

Ceri Lois Owen
gan Ceri Lois Owen

Ym mis Awst 2019, dywedais hwyl fawr i ffrindiau a theulu yma yng Ngogledd Cymru er mwyn cychwyn ar bennod newydd yn fy mywyd, a symud i’r Unol Daleithiau er mwyn gweithio yn Walt Disney World.

Roedd y swydd yn rhan o’r Cultural Representative Program (CRP) i weithio ym Mhafiliwn Prydeinig yn Epcot fel rhan o’r World Showcase. Roedd y swydd yma wirioneddol yn gwireddu breuddwyd i mi – symud dros 4000 o filltiroedd i ffwrdd, bywyd annibynnol a byw yn Disney – be’ gwell?

Roeddwn i ychydig dros 7 mis mewn i’r cytundeb 15 mis, ac i weithio yn rhan o’r cynllun yma, rhaid cael Q1 visa sy’n galluogi ni i weithio yn yr Unol Daleithiau. Rhan o’r swydd yw rhannu hanes a diwylliant dy wlad gyda’r gwesteion. Siarad trwy’r dydd bob dydd am Gymru a Chymreictod, a rhannu profiadau gyda phobl eraill. Mae’r United Kingdom Pavilion yn Epcot wedi ei gynllunio o amgylch traddodiadau Prydeinig megis hanes a threftadaeth, nwyddau, bwyd a diod, ac yn cynnwys yn agos i 100 o Cast Members (gweithwyr Prydeinig) yn gweithio yno am flwyddyn.

   

Gan fy mod i yn Orlando ers mis Awst, roeddwn yn ffodus i gael cyfle i wneud gymaint o bethau gwahanol du allan i’r gweithle. Cymerais bob cyfle oedd ar gael i mi fel Cast Member. Cefais aros mewn nifer o westai gyda ffrindiau, mynd i’r parciau ar ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith, mynd i’r traeth, siopa, digwyddiadau unigryw, Calan Gaeaf, gweithio ar ddiwrnod Nadolig a gwisgo cyrn ceirw, dathlu a chroesawu’r Flwyddyn Newydd gyda thân gwyllt Epcot a’r band ‘British Revolution’, bwytai ANHYGOEL, gwneud yr Wild Africa Trek,  gwneud sialensiau gwirion yn y parciau a dathlu Dydd Gwyl Dewi gwahanol iawn- gymaint o bethau materol, ond dim byd yn curo’r profiad o gyfeillgarwch a ffrindiau newydd.

Roeddwn yn byw mewn fflat gyda 5 o enethod rhyngwladol – Mecsico, Latvia, Ffrainc, a 2 o’r Eidal. Roedd rhaid rhannu stafell gydag unigolyn eraill, a Natalja o Latvia roeddwn i yn rhannu gyda. Fy ffrindiau pennaf oedd y rhai roeddwn yn gweithio gyda. Rhaid cofio, pan ti’n byw gymaint o filltiroedd o adref, mae pawb yn yr un sefyllfa a’r bobl yma yw dy deulu – ti’n gweithio, byw, ac yn cymdeithasu gyda nhw, a da chi’n nabod eich gilydd yn well nag eich hunain fel mae amser yn mynd yn ei flaen!

Roeddwn i hefyd yn awyddus iawn i deithio tu allan i Disney, ac roeddwn i ddigon ffodus i fynd i Efrog Newydd ym mis Rhagfyr ar gyfer y dathliadau Nadolig, ac yna i New Orleans ym mis Chwefror i’r Mardi Gras, a nifer fawr o dripiau ychwanegol wedi eu trefnu dros y misoedd nesaf gyda fy ffrind, Sara. Roedd nifer o bethau’r bucket list yn cael eu croesi ffwrdd, weithiau gyda diffyg arian, ond mae amser gwirioneddol yn werthfawr, rhywbeth ddaeth yn amlwg iawn ym mis Mawrth, gyda’r newyddion o’r Coronafeirws yn gwaethygu ledled y byd.

 

Mawrth 12fed, cawsom wybod bod Walt Disney World am gau o Fawrth 16 ymlaen yn sgil Covid-19. Roedd yn sioc enfawr i ni. Yn amlwg roedd iechyd a diogelwch yn bwysig, ond roedd pawb yn poeni am eu teuluoedd ym Mhrydain, a’r sefyllfa ariannol i ni. Roedd y diwrnodau nesaf yn wyllt, gyda gwesteion yn poeni a chwyno am bethau gwahanol yn sgil y newyddion a chwestiynau nad oeddwn yn gallu ateb. Cawsom wybod ar Fawrth 14, bod Cast Members ar y Collage Program (Americanwyr mewn swydd dymhorol) a J1 Visa (gweithwyr rhyngwladol) wedi colli eu swyddi, a bod angen iddyn nhw adael y llety swyddogol a’r wlad o fewn 72 awr. Collodd bron i 22,000 o bobl eu swyddi.

Roedd yn sefyllfa erchyll, gweld gymaint o bobl yn emosiynol iawn dros ddiwedd cyflym a’u dyfodol gyda’r cwmni a’r Unol Daleithiau, yna’r panig mawr wrth i’r bobl ifanc rhyngwladol ceisio gael hyd i flights byr rybudd a chostus. I ni’r CRPs, roedd y sefyllfa yn wahanol. Roedd ein swyddi ni a’r visas dal mewn lle tan Ebrill 1af, wedyn byddai’r cwmni yn adolygu’r mater.

Yng nghefn y meddwl, roeddwn i’n amau y bydd angen i ni adael hefyd. Roedd y pythefnos yma i ffwrdd o’r gwaith yn amser gwerthfawr i mi allu treulio diwrnodau gyda ffrindiau. Roedd y 10 diwrnod cyntaf yn gymaint o hwyl, ordro uber eats a gwneud cacennau, nosweithiau ffilm, diwrnodau wrth y pwll gyda’r UK Pav, cinio Dydd Sul, canŵio yn hollol ddisyniad yn Wekiwa Springs, wedyn y galwad disgwyliedig ond torcalonnus. Roeddwn i yn gyflogedig i gwmni allanol, neu Operating Participant yr Historical Research Center, a dwedent nhw nad oeddynt yn gallu ein cyflogi ar ôl Ebrill 1af, a bod yn rhaid i ni adael a dychwelyd yn ôl i Brydain i beidio torri amodau ein visa. Y galwad ffôn a newidiodd bopeth i mi.

Roedd y diwrnodau olaf yn emosiynol iawn, wedi i mi wneud ffrindiau oes a nawr yn gorfod gadael fy mywyd newydd yn Orlando. Parhau i gymdeithasu, i ymdopi gyda ffarwelio gyda phawb, wrth i reolau llym Orange County ddod mewn lle. Diwrnod cyn yr un olaf, aethom draw i arwydd nodedig Walt Disney World er mwyn i mi gael tynnu lluniau cyn mynd draw i fflat fy ffrindiau am y noson olaf. Mawrth 29, crio wrth adael fy ffrindiau a nhw yn canu “Gotta go my own way” o High School Musical 2 – classic, a mwy o grio ym Maes Awyr Orlando International cyn hedfan fyny am JFK yn Efrog Newydd er mwyn cysylltu i Heathrow, ac yna siwrne hir yn y car adref i Gaernarfon.

Erbyn heddiw, mae pob Cast Member wedi eu rhyddhau o’u gwaith a fy ffrindiau rhyngwladol adref. Rydw i mewn cysylltiad dyddiol gyda phawb, a’r un cwestiwn yn codi bob tro “pryd fydd y parciau yn ail agor?” Mae’n anodd iawn dychwelyd adref o dan unrhyw amod, ond mae sefyllfa y lockdown a’r feirws yn rhywbeth arall. Rhaid cofio bod pawb yn yr un sefyllfa, a bod iechyd yn gorfod dod cyn unrhyw beth arall. Roeddwn i gyda 7 mis ar ôl ar fy nghytundeb a visa, ond oherwydd yr amgylchiadau, mae’n annhebygol iawn y byddaf yn gallu dychwelyd i’r swydd pan fydd y parciau yn ail agor. Un peth y gallaf ddweud yn sicr yw bod bywyd yn rhy fyr, a bod amser yn werthfawr. Gwnewch y pethau rydych chi eisiau ei wneud, boed yn brynu tŷ a chael swydd barhaol neu deithio a gweithio.

Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd y lockdown drosodd a’i bod yn ddiogel unwaith eto i fynd i gymdeithasu ac i weld ffrindiau a theulu. I mi, dim ond dechrau’r siwrne yw hyn, ac rwy’n defnyddio’r amser di-waith yma i gynllunio’r bennod nesaf yn 2021.