Gwleidyddion a phreswylwyr yn beirniadu cau siop Argos

Diffyg ystyriaeth o’r effaith y bydd cau’r siop yn ei gael ar “gwsmeriaid ffyddlon Caernarfon.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Aelod Seneddol San Steffan Arfon Hywel Williams ac Aelod Senedd Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi beirniadu penderfyniad Sainsburys i gau siop Argos y dref.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Sainsburys eu bod yn cau 420 o siopau Argos ledled y Deyrnas Unedig, gan arwain at 3,500 yn colli eu swyddi.

Mewn datganiad, dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS:

“Mae’n destun gofid mawr bod Sainsburys wedi penderfynu cau siop boblogaidd Argos yng Nghaernarfon heb, hyd y gwelwn ni, unrhyw gydnabyddiaeth o’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar y gymuned leol.”

“Mae hwn yn ymddangos fel polisi cyffredinol iawn heb unrhyw ystyriaeth o amodau lleol na’r effaith y bydd cau y siop yn ei gael ar gwsmeriaid ffyddlon Caernarfon.”

“A yw penaethiaid Argos wedi asesu’n llawn y difrod posib i’w henw da wrth gau siopau hirsefydlog mewn llefydd fel Caernarfon, lle nad oes yr un Sainsburys mewn bodolaeth?”

Deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried

Mae brodor o Gaernarfon, Aaron Pleming wedi creu deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried.

Yn ôl y ddeiseb, mae’r penderfynniad yn gamgymeriad mawr, o ystyried bod y siop yn darparu gwasanaeth gwbl ganolog i bobl Caernarfon.

Mae’n cyfeirio yn benodol at leoliad cyfleus y siop ar gyfer preswylwyr hŷn a’r sawl sydd methu dreifio.

Mae’r ddeiseb wedi derbyn dros 250 mewn pum diwrnod.

Ansicrwydd siop Argos ym Mangor

Mae’r gwleidyddion hefyd wedi galw am sicrwydd ynglŷn â dyfodol siop Argos ym Mangor:

“Rydym yn cydymdeimlo â’r rhai sydd wedi colli eu swyddi, ar adeg pan mae dod o hyd i gyflogaeth arall yn hynod heriol,” meddai Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AS.

“Er ein bod yn deall bod rhai aelodau staff eisoes wedi cael eu hadleoli i siop Argos ym Mangor, rydym yn ceisio sicrwydd cadarn bod dyfodol y siop honno’n cael ei sicrhau.”

“Fel sydd wedi dod yn arferiad bellach gan gwmnïau mawr wrth gau siopau, pur anaml mae amodau lleol yn cael eu hystyried.”

“Dylai’r cwmnïau yma ystyried yr effaith ar gymunedau lle nad oes darpariaeth manwerthu cyfagos tebyg yn bodoli.”