Gŵyl Fwyd yn paratoi arlwy o ddigwyddiadau digidol

Manylion digwyddiadau digidol Gŵyl Fwyd Caernarfon

Gwyl Fwyd Caernarfon
gan Gwyl Fwyd Caernarfon
llun o gegin y cogydd Matt Guy

Cegin Matt Guy, y cogydd o Ddeiniolen sydd yn byw ger Nottingham

llun o gegin y cogydd Matt Guy
Cegin Matt Guy, y cogydd o Ddeiniolen sydd yn byw ger Nottingham

Er gorfod gohirio Gŵyl Fwyd Caernarfon 2020 tan 2021 oherwydd feirws Corona Covid-19, mae’r pwyllgor yn dal i gyfarfod yn rheolaidd (dros y we) ac wedi bod yn brysur gyda bob math o weithgareddau gwahanol. Yr ŵyl sydd yn gweinyddu cyllid y cynllun Porthi Pawb yng Nghaernarfon, sy’n darparu dros 600 o brydau bwyd yn wythnosol i’r rhai sydd eu hangen. Rydym hefyd wedi bod yn trefnu gwahanol weithgareddau digidol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr, cogyddion ac i gynnal diddordeb yn yr ŵyl.

Mae’r gyntaf i’w gweld ar eu tudalen Digwyddiadau, sef sgwrs ac arddangosfa coginio gyda Matt Guy.

Ifan Tudur, aelod o’r pwyllgor trefnu sy’n sgwrsio efo Matt dros Zoom. Roedd Matt, o Ddeiniolen yn wreiddiol yn un o’r cogyddion a oedd yn coginio yn ein gŵyl gyntaf, ac yn y fideo mae’n paratoi 4 rysáit gwahanol gan ddefnyddio Cig Eidion Luing Cymreig, wrth drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei yrfa, dyfodol y diwydiant arlwyo a’r profiad o gael babi ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod cloi.

Ar ddydd Sadwrn mi fyddwn yn cynnal ein Marchnad Ar-lein gyntaf. Ewch draw i’n tudalen Facebook ac ymunwch â ni yn y digwyddiadau rhwng 10 a 12 y bore a rhwng 8 a 10 y nos er mwyn siopa o’ch cartref a chanfod danteithion lu gan gwmnïau sydd fel arfer yn dod i’r ŵyl.