Gwyndaf Williams, y gŵr busnes, wedi marw.

Roedd Gwyndaf Williams yn ŵr busnes adnabyddus yn nhref Caernarfon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Gwyndaf Williams, gŵr busnes a oedd ynghlwm â siop Gwyndaf Williams a’i Fab ar Stryd Llyn, Caernarfon, wedi marw.

Gwnaed cyhoeddiad ar dudalen Facebook y siop ei fod wedi marw ar y 7fed o Ragfyr.

Yn ogystal â bod yn ŵr busnes, roedd yn ŵr, yn dad, yn daid ac yn frawd.

Mae’r neges yn sôn amdano fel un a ‘a roddodd ei holl ymroddiad i’r busnes a’i gwsmeriaid dros y blynyddoedd.’