Llety Arall – Sut a lle dan ni wedi cyrraedd

 

Llety Arall
gan Llety Arall
Llun-Llety-Arall

Llety Arall a siop Manon yn Stryd y Plas

Mae menter gymunedol Llety Arall wedi dod yn fenter er budd y gymuned sy’n darparu llety i ymwelwyr sy’n dod i Gaernarfon i ddysgu am yr hanes, cael profiad diwylliant Cymraeg ac i ymdrochi yn yr iaith Gymraeg. Ac hynny oll gan fod yn amgylcheddol gyfeillgar.

Roedd hynny’n bosibl oherwydd buddsoddiadau’r gymuned, grantiau a gwaith caled llu o wirfoddolwyr. Roedd pob ceiniog yn helpu a phob awr o waith clirio, paentio, llnau a llawer mwy. Ella eich bod chi wedi buddsoddi neu wedi treulio ambell i fore Sadwrn yn helpu? 

Ydach chi’n cofio Cadog? Y babi yn ein fideo cyntaf oedd mor dda yn perswadio pobl i fuddsoddi? Wel, mae Cadog bellach wedi tyfu ac mae gynno fo frawd bach! Gwyliwch ein fideo diweddaraf i glywed am hanes Cadog a lle mae Llety Arall erbyn hyn.

Dan ni wedi croesawu gwesteion o Gymru ac o bedwar ban y byd. Dan ni’n croesawu gwesteion o hyd – er dan amodau ac amgylchiadau ychydig yn wahanol nag arfer. Ac mae modd o hyd i fuddsoddi, e.e. i’n helpu ni gosod paneli solar. Ewch i wefan Llety Arall (lletyarall.org) rŵan i ddysgu mwy.