Y Maes Creadigol yn Addasu yn Ystod Cyfnod Heriol Covid-19

Mae Cylchgrawn y Stamp wedi bwrw ati i addasu i ofynion unigryw y cyfnod heriol hwn.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Y Maes Creadigol yn Addasu yn Ystod Cyfnod Heriol Covid-19

Nid yw’r byd, o raid, ar ben

ar y wê y mae’r awen!

Osian Wyn Owen

Fel pob maes arall, bron, mae’r celfyddydau wedi gorfod addasu i amgylchiadau digynsail, newydd, yn wyneb mesuriadau ymneilltuo’r Llywodraeth yn wyneb bygythiad Covid-19.

Mae’n debyg ei bod hi wedi mynd yn hawdd erbyn hyn i darannu’n erbyn y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg gyfoes am yr effaith y maent wedi eu cael ar ein gallu i gyfathrebu â’n gilydd. Wel, mae’n anodd iawn dychmygu lle fasa ni erbyn hyn oni bai amdanynt.

Mae Cylchgrawn y Stamp, sy’n eu disgrifio eu hunain fel ‘Cylchgrawn a llwyfan ar-lein sy’n ddathliad o greadigrwydd Cymraeg o bob math’, eisoes wedi bwrw ati i addasu i ofynion unigryw y cyfnod heriol hwn.

Efo pob digwyddiad diwylliannol wedi gohirio, gweisg wedi cau, a dim digwyddiadau byw, mae Covid-19 wedi’n gorfodi ni i ail-ystyried ein ffyrdd o weithredu yn llwyr.

Grug Muse, Y Stamp.

Sefydlwyd Y Stamp ar egwyddorion craidd, egwyddorion y gellir dysgu mwy amdanynt yn y fan hon, ac yn ôl Grug Muse, un o olygyddion Y Stamp, mae ethos cychwynol y cyhoeddiad wedi bod o fudd yn y cyfnod rhyfedd hwn.

Ein blaenoriaeth ni wrth sefydlu’r Stamp oedd fod y cyhoeddiad yn un efo’r gallu i addasu wrth i amgylchiadau newid, ac er na wnaethom ni raglweld y bydda ni’n gorfod ymdopi efo newid cweit mor ddramatig a hwn, dwi’n meddwl fod yr ethos yna wedi sicrhau ein bod ni’n medru bod yn hyblyg.

Grug Muse, Y Stamp.

Mae’n wir fod nifer o lenorion a beirdd ifanc yn hunangyflogedig, neu’n weithwyr llawrydd, demograffeg y mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn gyfnod ansicr a phryderus iddynt. Yn ymateb i hynny mae’r Stamp yn gobeithio “cefnogi rhywfaint ar lenorion ac artistiaid sydd wedi colli llawer o incwm dros y misoedd nesaf.”

Mae rhagor o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Y Stamp, a gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ar eu gwefan.

Bydd y nosweithiau yn parhau tra fod ganddom ni’r adnoddau i’w cynnal nhw, ac mae’r arlwy ar gyfer y misoedd nesa eisoes yn addo i fod yn amrywiol, bywiog a difyr.

Y noson Zoom nesaf sydd wedi ei threfnu ydi noson ‘Beirdd y Cymoedd’ ar Fai yr 8ed, yng nghwmni Sion Tomos Owen, Nerys Bowen, Morgan Owen ac Eluned Winney.

Grug Muse, Y Stamp.