Bysgio eto ar Stryd y Plas

Fy mhrofiad i o’r cyfnod clo.

Gwydion Outram
gan Gwydion Outram

Dwi wedi byw yn dre ers o ni’n 2 oed a dwi’n meddwl na un o’r petha’ gora ma’ mam a dad erioed wedi neud oedd symud i fyw yma. Mae hi wedi bod yn deimlad reit od gweld dre yn ddistaw yn ystod y cyfnod yma, ond roedd hi hefyd yn deimlad reit braf.

Yn ystod y misoedd cyntaf , yr oedd hi’n anodd gallu ffeindio ‘wbath i neud, felly o ni’n aros adra yn neud dim byd. Fel arfer o tua Mis Ebrill ymlaen ers y 4 mlynedd diwethaf, dwi wedi bod yn mynd i fysgio o flaen Palas Print yn Stryd Y Plas, ond oherwydd y feirws, do ni methu mynd i fysgio tan Fis Gorffennaf blwyddyn yma.

Dwi wedi gallu dechrau ‘nol rŵan, a dwi wedi bod yn canu bron bob diwrnod ers canol Gorffennaf. Mae hi wedi bod yn deimlad mor neis cael bod ‘nol allan yna. Roedd o’n neud i fi deimlo fel bo petha’ yn dechrau mynd yn normal eto, ac roedd o jyst yn braf gallu canu yna a gweld pobl yn gwenu ac yn mwynhau.

Mae hi wedi bod yn andros o brysur efo twristiaid blwyddyn yma, sydd wedi fy helpu i, ond hefyd wedi helpu’r busnesa lleol. Gan fod yr ysgol yn cychwyn ‘nol wythnos yma, fyddai’n ddim yno mor aml, ond os di’r tywydd yn braf, fyddai lawr yn stryd y plas ar rhai dyddiau Sadwrn os da chi ffansi clywed ychydig o adloniant wrth siopa.

Dwi hefyd yn rhan o fand o’r enw Maes Parcio. Yr oeddem i fod efo ’chydig o gigs flwyddyn yma, ond yn amlwg oherwydd y feirws, cawson nhw eu canslo. Mae’r feirws wedi effeithio pawb yn y Sin Roc Gymraeg blwyddyn yma, sydd yn siom fawr. Dim Steddfod, dim Maes B, dim Sesiwn Fawr Dolgella na’m byd. Un gig oni’n edrych ymlaen ati flwyddyn yma oedd Gig Aderyn Melyn ar Yr Oval yma yn dre. Yr oeddem ni’n ddigon ffodus i gael ein gwahodd i chware yno efo llwyth o fandiau anhygoel fel, Fleur De Lys, I Fight Lions, Daniel Lloyd A Mr Pinc, Geraint Lovegreen A’r Enw Da a llawer mwy. Er bod o wedi cael ei ganslo, da ni’n cael chwarae flwyddyn nesa, sy’n rhoi cyfle i ni fel band allu sgwennu mwy o ganeuon a datblygu. Rydym ni ar Instagram os da chi ffansi ein dilyn, a gennym 2 sengl ar soundcloud.