Palas Print yn paratoi tuag at y Nadolig

Manylion ar sut i archebu llyfrau newydd cyn y Nadolig.

Palas-Print-1

Palas Print yng Nghaernarfon

O hyn tan y Nadolig, yr ydym ar agor dydd Llun i Sadwrn 10:00 – 5:00, ac ambell noson hefyd.

Os da chi’n methu, neu ddim yn awyddus, i ddod i’r siop rhwng 10-5 dydd Llun-Sadwrn, neu yn ffansi neud chydig o siopa dolig hamddenol gyda’r nos, da ni’n cynnig nifer fechan o slots siopa gyda’r hwyr, gan gychwyn nos Iau yma.

Gallwch gadw slot i unigolyn neu bybl. Rhaid bwcio mlaen llaw, gan nodi faint o bobl sydd yn eich grwp, gan mai nifer cyfyngedig sy’n medru bod yn y siop ar unwaith. Mae pob slot yn para tua 20 munud.

Rydym hefyd yn cynnig slots dydd Sul. Delfrydol os ’da chi eisiau dod fel teulu cyfan, ac eisiau dod â’r plant am dro i gael golwg ar lyfrau. Eto, nifer cyfyngedig fydd yn cael bod yn y siop ar yr un pryd, felly rhaid bwcio mlaen llaw gan nodi faint ohonoch sydd yn y teulu / bybl. Slot 30 munud.

I gadw slot cliciwch FAN HYN

Cofiwch fod dal posib ichi archebu ymlaen llaw, a chasglu o’r siop. Os ’da chi’n gwybod yn union be ’da chi eisiau, mae hyn yn ffordd hwylus iawn o siopa! (Gallwch archebu a thalu ar-lein, neu dros y ffôn, a gallwch wneud ymholiad drwy e-bost hefyd).

Dim ond 4 cwsmer all fod yn y siop ar yr un pryd (+1 yn casglu wrth y til). Efallai y byddwn yn gorfod gofyn i chi ddisgwyl am gyfnod byr tra bod cwsmeriaid eraill yn gorffen siop / casglu. Gwerthfawrogwn eich amynedd!

Os yn bosib, peidiwch dod â’r teulu cyfan i siopa – dewch fesul un neu ddau – er mwyn lleihau’r nifer o bobl yn y siop.

Beth am anfon llyfr i godi calon rhywun dros yr wythnosau nesaf neu fel presant Dolig? Cysylltwch â ni ac mi wnawn ein gorau i helpu chi ddewis ac i ddosbarthu neu bostio atoch neu ar eich rhan.