Pecynau Bwyd am ddim gan Cofis Curo Corona

Cofis Curo Corona yn cynnig cymorth i drigolion Caernarfon yn sgil cofid-19.

Dewi Jones
gan Dewi Jones

Mae grŵp Cofis Curo Corona wedi derbyn grant gan Gyngor Tref Caernarfon i ddarparu pecynnau bwyd i drigolion y dref sydd wedi gweld gostyngiad yn eu hincwm yn sgil pandemig covid-19. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi eu rhoi ar gynllun furlough y llywodraeth a phobl hunangyflogedig sydd methu gweithio ar hyn o bryd. 

Ers i’r lockdown gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth mae’r grŵp wedi cynnig cefnogaeth i dros 300 o bobl y dref, yn bennaf i gasglu prescriptiwn o’r fferyllfeydd. Ond wrth i’r lockdown gael ei ymestyn roedd y grŵp o wirfoddolwyr yn teimlo bod nifer o bobl yn y dref yn ei chael hi’n fwyfwy anodd i gael dau ben llinyn yng nghyd oherwydd newidiadau yn eu hincwm.

Dywedodd Dawn Lynne Jones, sy’n cydlynu’r gwaith yn ward Cadnant, ac yn gynghorydd tref dros yr un ardal:

“Roeddem fel grŵp yn teimlo bod angen i ni gefnogi’r rheiny sydd yn aml yn cael eu hanghofio, ac sydd ddim fel arfer yn gofyn am gymorth. Er bod pobl sydd ar furlough yn parhau i dderbyn 80% o’u cyflog, mae’r gostyngiad o 20% yn gallu gwneud pethau’n anodd iawn i rai teuluoedd – yn enwedig os oes mwy nag un o’r cartref yn rhan o’r cynllun”. 

Mae’r pecynnau bwyd ar gael yn rhad ac am ddim ac yn cael eu rhannu ar sail no questions asked, felly does dim rhaid darparu unrhyw brawf o incwm na llenwi ffurflen. Mae’r grŵp yn annog trigolion y dref sy’n dymuno derbyn pecyn i gysylltu gyda’r cydlynydd ar gyfer eu ward nhw. Bydd pob ymholiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol.

Cadnant – Dawn Jones – 07901 935757

Menai – Dewi Jones – 07580 334554

Peblig – Jason Parry – 07900 594279

Seiont – Cai Larsen a Dic Thomas  – 07795 230072