Penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar dorfeydd yn “annheg” medd Paul Evans

Gemau pêl-droed Uwchgynghrair Cymru yn ailddechrau heb dorfeydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, Paul Evans, wedi dweud wrth golwg360 bod penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio gadael i dorfeydd fynychu gemau yn “annheg”

Bydd y tymor newydd yn ailddechrau ar Fedi 11, ond ni fydd torfeydd yn cael mynychu gemau.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a chynghrair Cymru Premier JD ar gynllun i ailddechrau’r gynghrair, gyda’r tymor newydd i ddechrau ar Fedi’r 11eg,” meddai datganiad ar wefan y Gymdeithas.

“Bydd gemau yn cael eu cynnal heb dorf yn gychwynnol, wrth i Lywodraeth Cymru gymryd camau pwyllog yn sgil pandemig COVID-19.”

“Annheg”

“Rydan ni’n cefnogi’r penderfyniad i fynd yn ôl i chwarae ond ddim i chwarae heb dorfeydd,” meddai Paul Evans.

“Mae’r clwb yn dibynnu’n llwyr ar arian noddwyr a chefnogwyr, felly mae’r Gymdeithas yn cymryd hanner ein llif incwn oddi wrtha ni.

“Rydan ni wedi gofyn am iawndal er mwyn cyfro’r gost, ond hyd yma maen nhw wedi dweud nad oes cefnogaeth ar gael.

“Dw i’n meddwl bod hynny yn annheg, oherwydd gan fod y clwb yn denu tua 650 bob wythnos, mae diffyg torfeydd yn mynd i effeithio ni fwy na chlybiau eraill.”