Perchennog y Black Boy yn trafod ailagor

Perchennog tafarn y Black Boy yn poeni bod tafarndai eraill yn anwybyddu’r rheolau

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Tafarn y Black Boy

Mae perchennog tafarn y Black Boy wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn poeni nad yw rhai o dafarndai’r dref yn cymryd y camau diogelwch priodol wrth ailagor.

“I fod yn onest, dw i’n credu bod yno rai llefydd yn y dref sy’n cymryd risg mawr drwy beidio dilyn y canllawiau priodol,” meddai John Evans wrth golwg360.

“Rydym wedi cael lot o bobol yn dod aton ni ac yn holi pam ein bod ni’n cymryd y camau diogelwch ’ma tra bod tafarndai eraill ddim.”

Ond er gwaethaf ei rwystredigaeth gyda rhai o dafarndai eraill y dref, dywed John Evans bod popeth wedi mynd yn “esmwyth” yn y Black Boy.

“Mae popeth wedi mynd yn esmwyth fan hyn, rydan ni wedi gallu sortio’r holl broblemau gawson ni ac roedd hi’n braf iawn gallu ailagor yn llawn.”