Osian Wyn Owen, yn wreiddiol o’r Felinheli ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, yw perchennog ‘Ar Goedd’.
Mae Ar Goedd yn fenter sy’n teilwra pecynnau marchnata a hyrwyddo i fusnesau lleol sydd wedi gorfod addasu’r ffordd y maent yn masnachu yn wyneb cyfyngiadau teithio a chanllawiau ymbellhau cymdeithasol yn wyneb Covid-19.
Dywedodd Osian:
Mae gen i brofiad personol o weld yr her anferth sy’n wynebu busnesau yn wyneb y pandemig diweddar. Mae’n rhaid i fusnesau sbïo ymlaen i’r dyfodol, ac addasu’r ffordd y maent yn masnachu.
Er i Ar Goedd gael ei sefydlu yn Arfon, mae’r gefnogaeth ar gael i fusnesau ledled Cymru, ac mae’r fenter yn tynnu ar brofiad gyda’r cyfryngau cymdeithasol, dylunio, a hyrwyddo.
Nodir ar wefan y fenter:
Mae Ar Goedd yn ymwybodol fod i bob busnes ei elfennau personol, unigryw ei hun. O’r herwyd, mae gofynion pob busnes yn wahanol. Rydym yn credu mewn dod i adnabod busnes a chynulleidfa’r busnes cyn bwrw ati â’r gwaith.
argoedd.cymru
Mae’r fenter yn rhan o raglen Llwyddo’n Lleol 2050 Menter Môn.