Presant i James Rodriguez gan hogyn o Ddeiniolen

Ben Hughes wedi mynd yn ‘viral’ ar ôl cyfarfod gyda’r chwaraewr pêl-droed

Tomos Roberts
gan Tomos Roberts
119684475_10157790456416452-1
119883444_10157790456621452

Mae’r cefnogwr Everton, Ben Hughes o Ddeiniolen, wedi mynd yn ‘viral’ ar y cyfryngau cymdeithasol wythnos yma.

Mae Ben, sydd efo tocyn tymor Everton, yn trafeilio yn aml gyda Chlwb Cefnogwyr Everton Gwynedd & Môn i wylio’r gemau yn Goodison Park. Ond oherwydd y cyfyngiadau, ni all cefnogwyr fynd i mewn i’r stadiwm ar hyn o bryd.

Er gwaethaf hyn, trafaeliodd Ben i Lerpwl  y penwythnos diwethaf er mwyn gwylio gem Everton v West Brom mewn tŷ-tafarn gyda’i ffrindiau. Enillodd Everton 5-2.

Wrth ddathlu ar ôl y gêm, gwelodd Ben un o chwaraewyr newydd Everton, James Rodriguez, yn trafeilio adra. Mae James wedi cael ei weld fel un o chwaraewyr gorau Ewrop yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2014, enillodd y ‘golden boot’ yng nghwpan y byd, cyn arwyddodd i Real Madrid am £63 miliwn. 

Felly, penderfynodd Ben roi botel o wîn ‘Echo Falls’ iddo. Rhannwyd y fideo ar twitter, ac erbyn hyn, mae’ hi wedi cael ei gwylio dros 700,000 o weithiau:

I ddathlu’r digwyddiad, mae Ben wedi cael tatŵ ar ei goes. Yn y llun gweler James Rodriguez wedi gwisgo fel James Bond, ac yn dal potel o wîn Echo Falls. Gan fod y digwyddiad wedi cael gymaint o sylw, mae Echo Falls wedi rhyddhau llun potel wîn arbennig Everton erbyn hyn. Gwyliwch allan am noddwyr newydd Everton yn y dyfodol!