Prydles clwb nos Copa ar werth

Gwyndaf Jones a Marlene Jones yn rhoi prydles Copa ar werth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae prydles clwb nos a bwyty Copa yng Nghaernarfon wedi cael ei roi ar werth gan Gwyndaf Jones a’i wraig Marlene, sydd wedi rhedeg y lle ers 2016.

Dywed y cwpl y bydd Copa yn dal i weithredu os na fydd neb yn prynu’r brydles, ac maen nhw wedi cadarnhau na fydd swyddi’n cael eu colli.

Maen nhw hefyd yn rhedeg Y Castell yng Nghaernarfon, The Heights yn Llanberis a bwyty La Marina yn Y Felinheli.

“Dyw gweddill y busnesau ddim ar werth ar hyn o bryd,” meddai Gwyndaf Jones.

“Mae fy mhlant yn rhan o’r busnes a bydd hyn yn gwneud pethau’n haws arnyn nhw.”