Pwysigrwydd cefnogi clybiau chwaraeon i ferched

Newid agweddau hen ffasiwn, hybu merched i gymryd rhan mewn chwaraeon, a chefnogi clybiau lleol.

Lowri Wynn
gan Lowri Wynn
rygbi merched caernarfon

Siom o’r mwyaf yn ddiweddar oedd darllen sylwadau gan ambell ben bach ar Twitter oedd yn ymwneud â phêl droed merched.

Yn aml mi fydda i’n cael fy nghythruddo wrth sgrolio heibio i’r aderyn bach glas, ond tro’ma ‘naeth yr hyn welais i hitio adra yn fwy na’r arfer. Sylwadau oeddynt wedi eu cyfeirio at gêm bêl droed rhwng Tîm Merched Caerdydd a Thîm Merched Abertawe, a chlip yn cael ei rannu ar y we o un o’r merched yn baglu, a SAWL person yn rhannu sylwadau negyddol.

Rŵan. Nid yn unig gallai hyn gael effaith gwirioneddol ar yr unigolyn o dan sylw (sydd yn fater yn ei hun, heb os), ond ar lefel ehangach, yr hyn sy’n peri pryder i mi ydi’r effaith y gall hyn gael ar gyfranogiad merched mewn chwaraeon. A fedra i ddim pwysleisio sefyllfa mor fregus yr yda ni eisoes ynddi.

Mae hi’n hanfodol bwysig bod merched yn cael yr un cyfleoedd â bechgyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, yn enwedig rhai sy’n hybu ymarfer corff. Mewn oes lle mae hunan werth a hunan edrychiad yn cael ei fesur mewn ‘Likes’ ar Instagram, mae hi’n hollbwysig ein bod ni’n annog ein merched, ein chwiorydd, a’n hwyresau i gymryd rhan mewn chwaraeon. Er ei bod hi’n anochel bod genod yn dal i wneud eu gwalltiau a fake tanio cyn mynd ar y cae, unwaith mae’r sanau i fyny a’r crys yna ‘mlaen, mae blaenoriaethau’n newid. Perfformiad ar y cae sy’n bwysig, nid perfformiad ar wefannau cymdeithasol. Does na’m ffiltar mewn gêm chwaraeon o unrhyw fath, ac mae’r rhestr o’r buddion meddyliol a chorfforol sy’n deillio o hynny yn ddiddiwedd!

Gyda phêl droed a rygbi merched o’r diwedd yn dechrau cael llwyfan ar ein sianel genedlaethol, mae’n bwysicach nag erioed i ni geisio annog merched ar lawr gwlad i ymuno â’n clybiau lleol, a’i gwneud hi’n ddyletswydd arnom ein hunain i fynychu mwy o’r gemau hynny. Po fwya’r merched fydd yn cymryd rhan yn y gamp, y mwya’ fydd y gystadleuaeth ar y lefel uchaf, a bydd y safon yn gwella o ganlyniad i hynny. Yn yr un modd, po fwya’r gefnogaeth ar y gwaelod, mae’n anochel y bydd y gefnogaeth (a’r arian) yn dilyn ar y lefel uchaf. Os mai gwella bydd safon y timau rhanbarthol a chenedlaethol, gwella bydd nifer y gynulleidfa hefyd.

Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o’r enwau mawrion y clywch chi yn y byd pêl droed a rygbi rhyngwladol merched Cymru yn rhai sy’n chwarae i glybiau dros y ffin. Ar hyn o bryd mae twf aruthrol yn y nifer o ferched sy’n teithio i Loegr er mwyn gwella eu camp. Mae ’na well cyfleusterau yno, mwy o arian wrth reswm ac o bosib mwy o barch tuag atyn nhw; parch at y gêm fenywaidd a hawliau merched i chwarae i’r un safon a chael yr un chwarae teg a’r dynion. Gobeithio, rhyw ddydd y byddwn yn gallu sicrhau’r un chwarae teg i’n chwaraewyr yma yng Nghymru.

Ond mae’n rhaid dechrau’n rhywle. Ac mae helpu i newid agweddau hen ffasiwn, hybu chwaraeon merched, a chefnogi clybiau lleol yn fan cychwyn gystal ag unlle. Mae clybiau chwaraeon fel Clwb Pêl-droed Merched Caernarfon a Chlwb Rygbi Merched Caernarfon wedi bod yn grymuso genod ers cenedlaethau. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn hybu cryfder corfforol a meddyliol, dycnwch, gwaith tîm, chwaeroliaeth, a chyfeillgarwch heb ei ail. Maen nhw’n haeddu ein cefnogaeth ni, felly da chi, cefnogwch nhw.