Pwysigrwydd golau mewn cyfnod tywyll

Sefydlwyd y cwmni Gola gan Mari Emlyn a’i mab Ifan Emyr yn ystod cyfnod clo’r gwanwyn, fel ymateb i ‘brinder lampshêds o safon ar y we.’

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Awdur ac actores yw Mari Emlyn a fagwyd yng Nghaerdydd, ond sydd bellach yn byw yn y Felinheli.

 

Mae cwmni Gola yn creu lampshêds o ddefnydd patrwm retro, yn ogystal â thynnu ar brofiad dylunio graffeg Ifan i greu lampshêds mapiau unigryw o leoliadau o ddewis y cwsmer.

 

Wrth sôn am 2020 a’i effaith ar ei bywyd, honodd Mari ei bod yn bosibl na fyddai wedi sefydlu’r fenter oni bai am y cyfnod clo;

“Rhoddodd y cyfnod clo y rhyddid i ymchwilio a datblygu’r cynnyrch yn barod ar gyfer ei werthu.

Mae’r cyfnod clo wedi esgor ar ryw egni creadigol sy’n fodd o dynnu’r meddwl oddi ar yr holl helbulon o’n cwmpas.

Mae ’na rywbeth yn arwyddocaol hefyd yn y ffaith mai ‘gola’ ydi ffocws y busnes a hynny mewn cyfnod mor dywyll.

Yn gyffredinol, dwi’n tybio fod y pandemig a llanast llywodraeth Prydain wedi tanlinellu’r angen i gymunedau bychain sefyll ar eu traed eu hunain a chefnogi mentrau lleol ein gilydd.

Gwn am o leiaf pedwar o fentrau bach eraill o fewn y pentref sydd wedi’u sefydlu yn ystod y chwe mis diwethaf a braf gweld pawb yn cefnogi ei gilydd mewn cyfnod mor ansicr.”

Mae Mari wedi bod yn gynhyrchiol iawn yn ystod y flwyddyn, gan gyhoeddi tair cyfrol hefyd, sef Annibyniaeth: Cymru’n Deffro, a’r nofelau Wal a Mefus yn y Glaw.

Wrth edrych ymlaen at y Nadolig, dywedodd Mari

“Mae hi’n hynod o brysur arnom ni yn y cyfnod yn arwain at ein nadolig cyntaf.

Gobeithio y bydd nadoligau’r dyfodol yr un mor gynhyrchiol a phrysur.”