Rhedeg Pen Llyn i Prostate Cymru

10 mlynedd ers colli ei Dad mae Dylan Huws yn gobeithio codi £1000 i’r elusen drwy redeg 37 milltir.

gan Guto Huws

Gan Dylan Huws:

Ddeng mlynedd yn ôl i fis Tachwedd eleni collais fy nhad, John Arfon Huws i gancr y prostad. Collwyd tad, gwr, taid, a thad yng nghyfraith hoffus ag annwyl. Roedd ei wreiddiau yn ddyfn ym Mhen-Llyn a gweithiodd dros ei bobol a’i ddiwylliant drwy gydol ei oes. Pen-Llyn oedd ei gartref a’i ysbrydoliaeth. 

Rwyf hefyd yn adnabod sawl un sydd wedi wynebu cancr y prostad, ac felly addas, ddegawd ar ôl ei golli, yw dathlu bywyd fy nhad a chodi arian ac ymwybyddiaeth drwy redeg arfordir a llwybrau penrhyn Llyn. Yn wreiddiol y syniad oedd rhedeg Ras Ultra Gaeaf Pen-Llyn 2020 ond gohiriwyd oherwydd Covid. Ond mae criw ohonom am ddal i redeg y cwrs 37 milltir (piti wastio’r holl amser paratoi).

Allai ond meddwl amdano’r dweud yn dawel a gyda gwen, “Ti’n siŵr dy fod hyn yn syniad da dwad?”

Gallwch gyfrannu at yr achos trwy ddilyn y ddolen hon – Diolch!