Rheol pymtheg person yn creu problemau i’r Clwb Ffermwyr Ifanc

“Mi ydyn ni’n glwb ofnadwy o agos a dwi’n gwybod bysa pawb isio dod yn ôl yr un pryd.”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Caernarfon wedi dweud bod hi am fod yn anodd iddyn nhw ailgychwyn cynnal eu cyfarfodydd arferol, yn sgil y rheol newydd ynghylch faint o bobol sy’n gallu ymgynnull ar y tro.

Daw hynny, wedi i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford gyhoeddi y caiff hyn at 15 person gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do o Ddydd Mawrth, Tachwedd 10.

Er hynny, mae’n debyg mai prin fydd yr effaith ar fudiadau cymunedol Cymru, o ystyried nad yw rhai lleoliadau cyfarfod arferol yn ddigon mawr i gadw pellter cymdeithasol a chan fod canghennau, gan amlaf, â mwy na phymtheg aelod.

“Mi fysa rhaid torri lawr pwy sy’n cael dod”

Mewn sgwrs gyda Caernarfon360 ynglŷn â’r datblygiad, dywedodd Llywydd y Clwb Ffermwyr Ifanc, Non Griffith:

“’Da ni heb gael cadarnhad gan fudiad Eryri eto,” meddai.

“Ond mi ydyn ni’n glwb o tua 45 o aelodau yng Nghaernarfon, felly mi fysa rhaid torri lawr pwy sy’n cael dod.”

Aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc, Caernarfon

“‘Da ni’n trio cadw cysylltiad hefo pawb a chael pwyllgor blynyddol wythnos diwethaf a dod i’r penderfyniad bod ni am gynnal meetings dros zoom unwaith y mis, fel bod yr aelodau yn cael cymdeithasu os dydyn ni ddim yn cael mynychu.”

“Dan ni wedi cynnal rali yn rhithiol, oedd yn llwyddiannus iawn a ‘da ni newydd gynnal ein ffair aeaf rŵan dros y we – mae’n job gwneud o. Dydi o ddim yn hawdd barnu buwch dros laptop!”

“‘Da ni yn poeni”

Er eu bod wedi bod yn cynnal digwyddiadau yn rhithiol pwysleisia pa mor bwysig yw sicrhau bod pawb yn cael cyfarfod gyda’i gilydd, wyneb yn wyneb.

“Yn amlwg, mae pawb yn ein clwb ni’n dod o gefndir amaethyddol ac mae pawb yn gwybod bod problemau iechyd meddwl yn uchel yn y sector yma, felly ‘da ni yn poeni,” meddai.

“Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau’n gweithio ar ben eu hunain drwy’r dydd ac mi oedd dod i’r clwb gyda’r nos yn rhywle iddyn nhw fynd.

“Mi ydyn ni’n glwb ofnadwy o agos”

“Dwi’n siŵr fod pawb yn edrych ymlaen i fynychu’r clwb yn ôl – mi oedden ni’n sôn am hyn noson o’r blaen – mi fydd o mor rhyfedd cael pawb yn ôl at ei gilydd. ’Da ni’n griw da o ffrindiau.”

“Mi ydyn ni’n glwb ofnadwy o agos a dwi’n gwybod bysa pawb isio dod yn ôl yr un pryd.”

Mae modd darllen mwy o ymatebion yma.