Rhyddhad i Sam: Y Nadolig heb ei ganslo wedi’r cyfan

“Dwi isio gweld fy nheulu a fy ffrindiau… a dwi wrth fy modd hefo pubs Gaernarfon hefyd!”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Sam Myrddin o Gaernarfon wedi sôn wrth Caernarfon360 am ei ryddhad yn sgil cynlluniau Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr dreulio’r Nadolig a’u teuluoedd.

Cadarnhaodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, y bwriad i ddarparu profion i fyfyriwr, sy’n dymuno dychwelyd adref am y Nadolig.

Ar ôl cychwyn digon dyrys i’w blwyddyn academaidd, cafodd y newyddion ei groesawu gan fyfyrwyr fel Sam Myrddin, sydd heb weld eu teuluoedd ers sawl mis bellach.

“Gadael digon o amser i bobl sy’n profi’n bositif”

“Mae’r penderfyniad yma yn ddigon teg,” meddai Sam Myrddin, sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Cyn belled â’u bod yn gadael digon o amser i bobl sy’n profi’n bositif i hunanynysu ac i wella i gael mynd adref”, meddai.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod cyswllt wyneb-yn-wyneb o fewn Prifysgolion yn dod i ben ddechrau fis Rhagfyr, fel bod modd i unrhyw un sydd â phrawf positif allu hunanynysu a gwella, cyn teithio adref am y Nadolig.

Yn astudio ym maes iechyd meddwl, dywedodd Sam Myrddin y byddai atal myfyrwyr rhag dychwelyd adref dros y Nadolig wedi bod yn niweidiol i’w hiechyd meddwl.

“Fyswn i ddim yn licio peidio gallu treulio’r Nadolig o adref o’ gwbl – dyna ydi ‘dolig,” meddai.

“Dwi isio gweld fy nheulu a fy ffrindiau.”

“… a dwi wrth fy modd hefo pubs Gaernarfon hefyd!”

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.